Mae Harjinder yn fyfyriwr Tystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (TAR) ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Harjinder Mackenzie

Professional Graduate Certificate In Education (PGCE)

Beth oeddech chi'n ei gwneud cyn dod i Glyndŵr?

Cyn dechrau cwrs ôl-raddedig, wnes i astudio BSC (Anrh) mewn Seicoleg a graddio hefo gradd dosbarth cyntaf.

Beth ddenasoch chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac i'r cwrs?

Wnes i fwynhau fy amser ym mhrifysgol yn fawr iawn ac roeddwn i eisiau parhau i ddysgu er mwyn helpu pobl eraill i wireddu eu gwir botensial, felly dewisais astudio am PGCE.

Beth wnaethoch chi ei fwynhau mwyaf am y cwrs?

Rydw i wedi dysgi lawer wrth wneud PGCE, un o'r pethau mwyaf arwyddocaol ydy pwysigrwydd gwahaniaethiad ac ymarfer cymhwysol, achos mae dysgwyr yn dod o sawl gefndir diwylliannol ac econonomiaidd-gymdeithasol, gydag anghenion ac arddulliau dysgu amrywiol.

Rydw i hefyd wedi dysgu sut i adnabod a chefnogi darpar ddysgwyr all fod ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn wedi cryfhau fy nghred mewn pwysigrwydd dod i nabod dysgwyr ac adeiladu dealltwriaeth dda gyda nhw er mwyn fod yn gefnogol a chymhwysol.

Beth sy'n gwneud y cwrs yn arbennig yn fy marn i ydi'r darlithwyr a mentoriaid rhagorol. Maen nhw i gyd yn ddeallgar, deallus a hawdd mynd atyn nhw sydd yn gwneud dysgu'n hwyl.

Beth wnaeth eich synnu mwyaf am astudio'r cwrs?

Ges i'n synnu pa mor gefnogol mae fy nghyfoedion wedi bod o lwyddiant ei gilydd a faint mae'r cwrs wedi helpu fi datblygu fy hyder a hunan-effeithiolrwydd.

Sut ydych yn feddwl bydd y cwrs yn helpu'ch gyrfa?

Rydw i nawr yn teimlo'n gyfforddus yn sefyll o flaen myfyrwyr gynnal sesiynau addysgu (rhywbeth 'doeddwn i byth yn meddwl buaswn i'n gallu ei gwneud!). Ar ôl ennill fy ngradd, buaswn i'n hoffi addysgu mewn addysg uwch, a pharhau i ddysgu yn ogystal ag ennill y QTLS wrth addysgu.