Astudiodd Jakub Matusiak MSc Gwyddor Biofeddygol yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Ef hefyd oedd enillydd Gwobr Goffa Helen Hughes yn 2020.

Ar ôl cwblhau gradd BSc Microbioleg ym Mhrifysgol Lerpwl, fe geisiais am le ar y cwrs MSC Gwyddor Biofeddygol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.  Dewisais yr opsiwn hwn oherwydd y ffaith fod y rhaglen wedi ei hachredu gan y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol (IBMS), sydd yn rhywbeth y mae cyflogwyr gwyddor iechyd yn ei ystyried yn agwedd hanfodol o’r rhaglen, ynghyd â phrofiad ymarferol.

Hefyd, mae gan fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen yma gyfle i astudio a threulio amser yng Nghanolfan Ymchwil Clinigol Gogledd Cymru (NWCRC). Mae hon yn ganolfan o’r radd flaenaf ac yno mae myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio’r technegau labordy clinigol ac ymchwil diweddaraf. Roedd myfyrwyr ar y rhaglen hon hefyd yn gallu ymgymryd â’u hymchwil labordy yn y NWCRC.  

Ar ben hyn, mae’n bwysig crybwyll bod nifer sylweddol o ddarlithoedd yn cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol o’r GIG (er enghraifft llawfeddygon a rheolwyr patholeg), ble maent yn trafod astudiaethau achos go iawn fel rhan o’u haddysgu). Mae’r rhaglen yn gynhwysfawr ac yn trafod ystod eang o bynciau, o ddulliau ymchwil i haematoleg a microbioleg. Yn y bôn, mae rhywbeth yma ar gyfer pawb ysydd â diddordeb mewn gwyddor biofeddygol a meddygaeth.

Mae rhaglen MSc Biofeddygol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ddewis gwych ar gyfer unrhyw un sydd am ddysgu am wyddorau labordy meddygol, diagnosteg glinigol ac ymchwil. Mae’n rhaglen sydd wedi ei strwythuro’n dda, yn drefnus a dan arweiniad gweithwyr proffesiynol academaidd a gofal iechyd cyfeillgar, parod i helpu a phrofiadol sydd yn defnyddio’u profiad i addysgu ac i ddarparu profiad dysgu rhagorol ar gyfer y myfyrwyr.

Nodwedd gref arall o’r rhaglen yw’r gefnogaeth ragorol a ddarperir gan staff i helpu a chynghori myfyrwyr gyda’u dewisiadau o ran llwybrau gyrfaoedd. Ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb astudio Gwyddorau Biofeddygol, meddygaeth neu ymchwil glinigol, rwy’n argymell y rhaglen MSc Gwyddor Biofeddygol yn fawr iawn ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.