Mae Laura yn fyfyriwr MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndwr.

Beth oeddech chi’n ei gwneud cyn dod I Brifysgol Glyndŵr Wrecsam? 

Wnes i ddechrau’r MA ar ôl cael gradd BA (Anrh) dosbarth cyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

Beth ddenoch chi i PGW ac i’r cwrs?

‘Doeddwn i ddim yn siŵr pa ffordd i fynd wrth ddechrau fy astudiaethau oherwydd roeddwn i’n fam llawn amser i dri o blant am nifer o flynyddoedd, ond ar ôl darllen am y cwrs ar-lein mi benderfynais ddewis y cwrs gan ei fod yn swnio’n ddiddorol tu hwnt ac yn rhywbeth byddai’n dal fy niddordeb.

Beth wnaethoch chi fwynhau mwyaf am eich cwrs? 

Fy hoff beth am astudio’r cwrs ydy amrywiaeth y modylau sydd yn rhoi rhyddid i chi bron i greu MA eich hun. Rwyf yn gallu archwilio risg terfysgaeth a damcaniaeth ymlyniad, na chafodd ei chynnwys yn y BA ac felly rwyf wedi ehangu’n wybodaeth ymhellach. 

Roedd yn gwrs hynod o ddiddorol ac amrywiol; mae’r modylau i gyd yn gryf iawn yn ogystal â’r opsiwn dysgu wedi’i drefnu. Hefyd, gan fod y cwrs ar-lein gallwch ei ffitio o gwmpas eich diwrnod arferol ac mae’n gyraeddadwy i bawb.

Beth wnaeth eich synnu mwyaf am astudio’r cwrs? 

Ges i fy synnu gan faint o sylw, er bod y cwrs ar-lein. Maen nhw’n ateb e-bostau’n gyflym ac yn trefnu cyfarfodydd er mwyn rhoi’r holl gymorth sydd ei hangen, neu hyd yn oed jest i gael golwg ar waith.

Sut ydych chi wedi elwo wrth astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr?

Os oes diddordeb gennych mewn troseddeg a chyfiawnder troseddol, mi ddylech chi ddewis y cwrs yma gan ei fod yn cynnig gymaint o opsiynau gyrfaol ar ôl gadael, yn enwedig yn HMP Berwyn yn Wrecsam.

Sut ydych yn meddwl bydd y cwrs yn helpu’ch gyrfa? 

Ers graddio rwyf wedi ennill fy swydd ddelfrydol fel hwylusydd ymyrraeth mewn carchar mawr.