Mae Lucy yn fyfyriwr BSc Cynhyrchu a Thechnoleg Teledu yn ei 3edd flwyddyn ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n ei gwneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n gweithio llawn amser fel technegydd fferyllfa am yr ugain mlynedd diwethaf (rydw i dal yn gweithio dau ddiwrnod yr wythnos). Dechreuais fel merch dydd Sadwrn wrth astudio’r cyfryngau yn y coleg, wedyn mi benderfynais arbed arian er mwyn fynd i brifysgol; ond yn y diwedd symudais i ffwrdd ac ennill cymwysterau yn y maes.

Beth a’ch denodd i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Wrth symud yn ôl i Sir yr Amwythig, mae gen i fwy o opsiynau i ehangu a newid fy ngyrfa. Wrth feddwl am fy nyddiau coleg a gymaint wnes i hoffi astudio’r cyfryngau, gweithio gyda’r camerâu, cynhyrchu cynnwys, wnes i sylweddoli bod rhaid i mi ddychwelyd i beth roeddwn i’n frwdfrydig amdani.

Roedd Wrecsam yn cynnig y cwrs perffaith, dim yn rhy bell o gartref a ddim yn brifysgol ddinesig cyffredinol. Roedd maint y brifysgol yn berffaith i mi a doedd dim awyrgylch ‘yn ôl i’r ysgol’, sydd yn dda i fyfyriwr hŷn. 

A wnaethoch chi fynychu ddiwrnod agored? Os felly: beth oedd eich argraffiadau? Beth wnaethoch chi yn ystod y diwrnod? A oedd yn help?

Pan ymwelais i â diwrnod agored ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam roeddwn i’n nerfus iawn ond unwaith i mi weld Adeilad y Cyfryngau Creadigol a mynd i mewn i’r stiwdio teledu, teimlais wefr a dyna pryd wnes i sylweddoli mai dyma’r llwybr gyrfa i mi.

Sut oedd yr awyrgylch ar y campws?

Cyfeillgar iawn, yn enwedig y menywod yn y siop coffi, sydd yn gwybod pryd dw i’n barod am fy mhaned o de!

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Popeth! …Well, heblaw am y cyflwyniadau.

Mae’r mwyafrif o ddarlithwyr wedi, neu yn, gweithio yn y diwydiant felly mae ganddyn nhw’r gallu i’ch dysgu sut mae bywyd gwaith go iawn. 

Gweithio gyda, a dysgu sut i ddefnyddio, yr offer o ansawdd uchel sydd ar gael.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gwneud unwaith ichi raddio?

Mae’n ddiwydiant caled i gychwyn ynddo, ond dwi’n gobeithio cael profiad o weithio fel rhedwr neu weithredwr camera ac wedyn ehangu fy rîl sioe a chysylltiadau yn y maes hwn.

Rwy’n teimlo bod fy ngwybodaeth a sgil wedi cynyddu’n ddirfawr a bydd hyn yn fy helpu symud ymlaen i fy ngyrfa ddewisedig.

Sut fu’r gefnogaeth?

Mae staff wedi bod mor gynorthwyol, maen nhw wedi bod ar gael bob tro, os oes gen i gwestiwn cyflym neu os ydw i angen cymorth.

Yn fy mhrofiad i, os wnewch chi’r gwaith ac yn parchu pobl, yna wnewch chi ennill hymddiriedolaeth a gallwch ofyn am help unrhyw bryd.

Sut ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Dwi’n teimlo gymaint yn hapusach yn gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth i’n mywyd. Dwi’n gobeithio bydd ennill gradd ar ddiwedd fy nghwrs yn paratoi’r ffordd ar gyfer llawer o anturiaethau newydd yn y dyfodol. Dwi wedi brwydro hefo diffyg hyder erioed, ond mae fy hyder wedi codi yn ystod y cwrs. 

Sut fyddech chi’n crynhoi eich profiad o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn gair?

Newid bywyd (dau air, sori!)

Newidiodd fy mywyd i’r gwell gymaint unwaith y dechreuais i yma. Dwi wedi dysgu gymaint yn barod ac mae wedi bod yn agoriad llygaid i’r opsiynau ar gyfer y dyfodol.