Mae Lukasz yn fyfyriwr 2il flwyddyn BEng Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n gwneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Bûm yn gweithio ym maes manwerthu am 11 o flynyddoedd, ac mewn swyddi rheoli am hanner yr amser yma.

Beth ddenodd chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Y cwrs diddorol, a’r ffaith ei fod yn lleol i mi. Roedd hi hefyd yn bwysig bod staff y brifysgol yn gefnogol gyda’m cais. 

Ddaethoch chi i ddiwrnod agored? Pa argraff gawsoch chi?  

Roedd y digwyddiad yn wych o ran gallu cwrdd â thiwtoriaid ac fe ddes i wybod llawer mwy am y cwrs. Cefais sgwrs gyda dau arweinydd cwrs o gyrsiau oedd o ddiddordeb i mi, a chyfle hefyd i fynd ar daith o amgylch y campws i gael gwybod mwy am beth sydd ar gael yn y Brifysgol. Dyna ble y penderfynais i mai’r cwrs Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy oedd yr un i mi, wedi sgwrsio gydag arweinydd y cwrs.

Sut awyrgylch sydd ar y campws?

Rydw i’n hoffi’r ffaith bod y staff i gyd yn barod i helpu a bod modd treulio amser yn Undeb y Myfyrwyr.

Beth ydych chi’n hoffi fwyaf am eich cwrs?

Mae’n cyflawni fy niddordeb mewn peirianneg ond hefyd fy mrwdfrydedd mewn ynni glanach a datrys problemau amgylcheddol. Rydw i’n mwynhau ein tripiau blynyddol i fannau sy’n ymwneud â’r cwrs, fel ffermydd gwynt, ffermydd hydrogen ac ati.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?

Rydw i’n edrych ymlaen at ymuno â’r diwydiant, ac ar ôl blwyddyn neu ddwy o brofiad, efallai dechrau fy menter fy hun yn ymwneud â Pheirianneg Adnewyddadwy.

Sut fu’r gefnogaeth?

Gwych, o’r cychwyn cyntaf roeddwn i mewn cysylltiad â phobl yn y Brifysgol, ac yn ystod y broses ymgeisio fe ges i lawer o gymorth. Nawr, y peth gorau yw’r mynediad rhwydd ar yr holl athrawon, am fod modd ichi gysylltu â hwy ac o fewn diwrnodau neu’n gynt, trefnu cyfarfod i drafod unrhyw faterion.

Sut yn eich barn chi rydych chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Mae’n amser gwych, ehangu fy ngwybodaeth a chwrdd â phobl ddiddorol.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam gydag un gair, beth fyddai hynny a pham?

Cyfeillgar. Mae’n hawdd iawn cael yr amser a’r sylw gan diwtoriaid os oes angen. Maent yn adnabod yr holl fyfyrwyr wrth eu henwau, ac mae’r staff eraill yn barod iawn i helpu.