Ar hyn o bryd mae Matthew yn astudio Nyrs Gofrestredig BN Anrh (Nyrsio Oedolion) ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n dywysydd theatr yn ysbyty orthopedig Robert Jones ac Angus Hunt yng Ngobowen, gan fynd â chleifion o’r wardiau drwodd i’r ystafell anaesthetig ac i mewn i’r theatr. Cyn hynny treuliais 20 mlynedd yn y fyddin, yn y fyddin barhaol a chronfeydd wrth gefn y fyddin, a chyn hynny roeddwn i’n gweithio mewn ffatri.

Beth ddenodd chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roedd y lleoliad yn ffactor mawr, a hefyd roedd y cyfraddau pasio a chyflogaeth yn apelio’n fawr iawn.

Sut mae’r awyrgylch o amgylch y campws?   

Mae’n fwrlwm o weithgaredd yma drwy’r amser gyda llawer o fyfyrwyr hŷn fel fi ar y campws.

Beth ydych chi’n mwynhau fwyaf am eich cwrs? 

I mi, y peth sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf yw’r lleoliadau. Fodd bynnag, rydw i’n mwynhau’r darlithoedd hefyd, yn enwedig y ffordd mae’r darlithwyr yn gwneud y gwersi yn hwyl ac yn cael pawb i gymryd rhan. 

Beth ydych chi’n gobeithio ei wneud pan fyddwch yn graddio?

Pan fydda i’n graddio rydw i’n gobeithio mynd ymlaen i weithio yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys, neu ar ward gardioleg.

Sut fu’r gefnogaeth?  

Cefais ddiagnosis o ddyslecsia gan y brifysgol, ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych yn hynny o beth. Mae’r darlithwyr, yn ystod ac wedi’r gwersi, wedi bod yno bob tro i gefnogi’r cohort hefyd.  

Sut ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?  

Mae myfyrwyr nyrsio eraill yr wyf wedi siarad â hwy mewn cohortau llawer mwy, ac nid yw’n ymddangos eu bod yn cael yr un gefnogaeth ag y mae Glyndŵr yn gallu ei rhoi.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn un gair, beth fyddai hynny a pham?

Rhagorol – oherwydd y gefnogaeth wych gan yr holl staff rydw i wedi dod ar eu traws, o’r derbynyddion i staff y llyfrgell, staff arlwyo a’r tiwtoriaid.