Roedd Patrick yn myfyrwyr Prifysgol Glyndwr Wrecsam o 2016-2020 wrth astuddio BSc (Anrh) Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a MRes Gwyddor Chwaraeon, Ymarfer Corff ac Iechyd.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn dod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Roeddwn i’n gweithio llawn amser fel achubwr bywydau.

Beth wnaeth eich denu i ddod i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Y prif reswm ddenodd fi i Brifysgol Glyndŵr oedd yr ymagwedd ymarferol gan y tîm darlithio, a’r mynediad at ddatblygu cysylltiadau gyda sefydliadau lleol.

Sut awyrgylch oedd ar y campws?

Roedd yr awyrgylch o amgylch y campws yn wych, gydag amrywiaeth o wahanol wagleoedd ar gyfer dysgu a digwyddiadau a gweithgareddau unigryw ar draws y brifysgol.

Beth oeddech chi’n fwynhau fwyaf am eich cwrs?

Dydych chi byth yn cael eich trin dim ond fel rhif, mae’r staff yn mynd gam ymhellach i sicrhau fy mod i a’r myfyrwyr eraill yn elwa o’r cwrs, gan ddangos ehangder o wybodaeth mewn meysydd, pynciau a chwaraeon amrywiol.

Beth ydych chi wedi gwneud ers ichi raddio?

Ers graddio rydw i wedi mynd ymlaen i fod yn ddarlithydd mewn coleg (Reaseheath – mewn chwaraeon), yn ogystal â sefydlu dau fusnes nofio gan roi ar waith yr hyn ddysgais i o’r cyrsiau.

Sut gefnogaeth gawsoch chi?

Wedi gadael y Brifysgol fe ges i ddigon o gyswllt a gyda staff cymorth pan ddaeth hi’n amser ymgeisio am swyddi, taro golwg ar geisiadau a hefyd cefnogaeth gan y tîm darlithio gyda chysylltiadau defnyddiol a hyd yn oed tynnu fy sylw at swyddi addas.

Sut ydych chi’n meddwl eich bod wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Fuaswn i ddim yn y rôl yr ydw i ynddi hi heddiw heb fy amser yng Nglyndŵr. Hefyd fe helpodd fi i ddatblygu sgiliau meddal, rhan enfawr o’r amgylchedd waith. Mae agweddau fel tasgau grŵp a rheoli amser yn sgiliau allweddol ychwanegol.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr gydag un gair, beth fyddai hynny a pham?

Cyfle - roedd y cyfle i gysylltu, a gweithio gyda thimoedd/grwpiau lleol yn anhygoel. Fe ges i gyfle i weithio gyda Chlwb Rygbi’r Wyddgrug a Rygbi Gogledd Cymru, a heb y cyfleoedd hynny fyddwn i ddim ble rydw i heddiw.