Astudiodd Ryan Harding BSc (Anrh) Hyfforddi Pêl-droed a’r Arbenigwr Perfformiad yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam rhwng 2017-20.

Sut wnaeth eich amser ym Mhrifysgol Glyndŵr eich paratoi chi ar gyfer byd gwaith?

Rhoddodd Glyndŵr ddealltwriaeth gytbwys imi o ochr ddamcaniaethol ac ymarferol hyfforddi pêl-droed. Yn aml byddem yn mynd dros wahanol ddamcaniaethau a dysgeidiaeth yn yr ystafell ddosbarth ac yn cael cyfle wedyn i roi’r ddamcaniaeth yr oeddem newydd ei dysgu ar waith yn ymarferol. Roedd hyn yn help mawr i’n paratoi ar gyfer y byd go iawn, am fod gennym ni wybodaeth gefndirol tu ôl i ‘Arfer gorau’ oedd yn ein helpu ni wrth inni fynd ati i hyfforddi. Roedd yr addysgu yn drwyadl ac roedd gennym ni gyfleoedd bob tro i gymhwyso damcaniaeth, am fod dull y cwrs yn un ymarferol iawn.

Beth ydych chi’n ei wneud yn eich swydd bresennol?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda Foundation Phase Football Coaching fel hyfforddwr pêl-droed. Rydw i’n cymryd sawl sesiwn pob wythnos ar draws y Gogledd Orllewin gan ddilyn maes llafur hyfforddi. Rydw i hefyd yn darparu sesiynau un-i-un awr o hyd i wella techneg, cyflymder, chwimder a buander. Rydw i’n hyfforddi’r Tîm dan 7 a 9 ac yn mynd gyda nhw i’w gemau penwythnos.

Cyn bo hir mi fydda i’n ymgymryd â rôl ym Mecsico, yn hyfforddi rhaglen llawr gwald i ferched am gyfnod o 4 wythnos, ac yna’n hedfan i Abu Dabi i ddechrau fy swydd lawn-amser newydd yno fel hyfforddwr pêl-droed.

Beth fu uchafbwyntiau eich gyrfa hyd yn hyn?  

Mae ‘na sawl moment rwy’n falch ohonynt â dweud y gwir. Un uchafbwynt tra-chofiadwy oedd ennill gradd Dosbarth 1af. Mae’n dangos bod gwaith caled ac ymrwymiad tros gyfnod hir o amser yn talu ar ei ganfed. Hefyd roedd cwblhau fy nhrwydded UEFA B ym Mhrifysgol Glyndŵr yn llwyddiant arbennig arall ac roeddwn i wir yn teimlo ei fod o wedi fy helpu i fel hyfforddwr. Yn fwy diweddar, cefais gyfle i fynd â’m tîm i Finch Farm (Academi Everton) a chwarae yn erbyn ychydig o’u timoedd. Roedd yn brofiad anhygoel i mi ac i’r bechgyn.

Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Glyndŵr?

Sawl rheswm a dweud y gwir. Roedd yn llawer agosach at adref na’r Prifysgolion eraill i lawr yn y de oedd yn golygu fy mod i’n gallu mynd i weld fy nheulu’n fwy aml. Ond o ran y cwrs ei hun, roedd yn wirioneddol sefyll allan. Am fod hyfforddi pêl-droed yn eithaf newydd o ran pontio i gyflogaeth lawn-amser, does dim llawer o Brifysgolion yn cynnig cwrs hyfforddi pêl-droed. Ond pan welais y cyfleoedd oedd gan Glyndŵr i’w cynnig fe es i amdani. Yn ogystal ag ennill gradd, mae gennych chi gyfle i ennill eich trwydded FAW C (Lefel 2) a thrwydded UEFA B (Lefel 3). Mae gan y darlithwyr sy’n eich dysgu chi brofiad helaeth mewn meysydd gwahanol a blynyddoedd o wybodaeth o hyfforddi.  Mae’r cyfleusterau hefyd yn fonws mawr, ac yn fy mlwyddyn olaf cawsom gyfle i gael ein holl ddarlithoedd yng nghyfleuster newydd sbon Parc y Glowyr, sy’n gyfleuster hyfforddi o’r radd flaenaf. Yno cawsom ddefnyddio’r offer gorau posib a fu’n help mawr i wella’n profiad.

Pa fath o fyfyriwr oeddech chi?

Rwy’n credu iddi gymryd peth amser imi addasu i ddechrau, mynd o’r coleg yn syth i’r Brifysgol, ond wrth imi ymgartrefu rwy’n credu imi gael gafael ar yr ochr academaidd o fywyd Prifysgol.  Roeddwn i’n ceisio bod yn rhagweithiol bob tro yn fy ymagwedd. Peidio byth â gadael pethau tan y funud olaf a rhoi’r cyfle gorau posib o lwyddo. Wrth gwrs roeddwn i’n mwynhau’r amser ymlacio gyda ffrindiau ond fy mhrif flaenoriaeth oedd fy astudiaethau. Roeddwn i wedi dod i Glyndŵr am reswm, a hynny oedd cyflawni’r radd orau bosib yn fy nghwrs gradd. Roeddwn i teimlo weithiau fy mod i’n plagio fy narlithwyr am fy mod i’n gofyn am gyngor neu am gyfarfodydd i fynd dros beth o’r gwaith, ond maen nhw yno i helpu felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn pe bydd angen.  

Sut wnaeth astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr eich helpu chi?

Roedd yn help aruthrol. Roedd cynnwys y cwrs yn hynod ddiddorol ac atyniadol. Mae’r tiwtoriaid yn barod i helpu ac yn wybodus ac mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf. Yn gyffredinol fe ges i amser gwych yn astudio yma a doeddwn i byth yn teimlo allan o’m dyfnder, mae hyn oherwydd yr amgylchedd cyfeillgar sydd wedi ei chreu yng Nglyndŵr ble mae’n hawdd i fyfyrwyr fynd at diwtoriaid. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sydd am weithio mewn maes tebyg?

Mi fuaswn i’n dweud heb os nac oni bai y dylech chi gael profiad ymarferol ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Bydd hyn yn eich helpu chi cymaint, ac yn gyfle i wneud cysylltiadau lleol yn ogystal â rhoi’r ddamcaniaeth rydych wedi ei dysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith. Peidiwch â bod ag ofn os nad ydych chi wedi hyfforddi o’r blaen neu’ch bod chi’n weddol newydd i’r maes - mi roeddwn i yn yr union sefyllfa. Mae’n rhaid i bawb ddechrau’n rhywle.

A fyddech chi’n argymell dilyn cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr, a pham?

Mi fuaswn i’n argymell astudio yma ym Mhrifysgol Glyndŵr yn fawr iawn. Mae cymaint o fuddion o dreulio 3 mlynedd yma fel y dywedais eisoes. Bonws mawr arall yw’r ffaith bod maint y dosbarthiadau yn fach gan fwyaf, felly mae’r arddull yn y dosbarth yn fwy personol ac rydych chi’n gallu cysylltu’n well gyda staff a chyfoedion.

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yng Nglyndŵr?  

Mae gen i sawl un, ond fy mhrif atgof fyddai cyflwyno fy Nhraethawd Hir o’r diwedd ar ôl cymaint o oriau o waith caled. Er fy mod i wedi symud yn ôl adref oherwydd y pandemig, roedd yn wirioneddol yn deimlad o gyflawniad i mi, ac yn un a dalodd ar ei ganfed yn y diwedd.