Astudiodd Sandra Cemeg gyda Nanotechnoleg Werdd ym Mhrifysgol Wrecsam Glyndŵr.

Beth ddenodd chi i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Yr amrywiaeth, yr ymdeimlad o gymuned, staff hawdd mynd atyn nhw, awyrgylch hynod gyfeillgar. Roeddwn i’n teimlo bod croeso imi yma fel myfyriwr hŷn.

Aethoch chi i ddiwrnod agored? Sut brofiad oedd o?

Roedd y staff a’r darlithoedd yn gyfeillgar iawn, am fod prifysgol fechan yn gwneud imi deimlo’n gyfforddus, roedd yr adnoddau academaidd a’r gefnogaeth yn dda. Fe fynychais i gyflwyniad cyffredinol am y Brifysgol, gan fynd o amgylch y safle wedyn i gynefino â’r lle (ymweld â’r caffis, y llyfrgell, y tŷ lleoliad trosedd ac ati). Fe es i ddarlith gan un o’r darlithwyr gwyddoniaeth a chwrdd â rhai o’r darlithwyr eraill wedyn. Fe wnes i ffrindiau newydd hefyd. Roedd yn ddefnyddiol iawn. Fe ddes i wybod mwy am y cyrsiau gwyddoniaeth, a chyn y diwrnod agored roeddwn i'n meddwl mai dim ond gwyddor Fforensig ac astudiaethau Anifeiliaid oedd ar gael. Fe ges i gyfle i ymweld â’r holl labordai gan gael golwg well ar yr holl gyfleusterau sydd ar gael ar y campws.

Sut awyrgylch sydd ar y campws?

Awyrgylch gyfeillgar iawn, gydag ymdeimlad gwych o gymuned sy’n dysgu.  

Beth ydych chi’n mwynhau fwyaf am eich cwrs?

Mae fy nghwrs yn cael ei ddarparu gan bobl broffesiynol gwych, sydd yn hawdd mynd atyn nhw ac yn barod i helpu. Rydw i’n falch iawn bod nanotechnoleg yn rhan o’r cwrs. Mae’r cwrs yn fwy na dim ond Cemeg, mae hefyd yn gymysgedd o wahanol bynciau sydd yn ddefnyddiol iawn i ddatblygu cefndir cadarn a hyder fel gweithiwr proffesiynol.

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud unwaith ichi raddio?

Hoffwn i astudio cwrs Meistr neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)

Sut fu’r gefnogaeth?

Gwych. Mae’r darlithwyr yn barod i helpu bob tro, ac mae gan Brifysgol Glyndŵr dîm cymorth academaidd gwych. Maent yn cynnig gweithdai (mewn PowerPoint, Word, Cyflwyniadau a chyfeirnodi, ac ati) i helpu myfyrwyr i wella eu sgiliau academaidd. Weithiau mae’r myfyrwyr hŷn yn cael trafferth gyda thechnoleg gwybodaeth a sgiliau academaidd, felly mae’r gweithdai yma yn ddefnyddiol iawn.

Sut, yn eich barn chi, rydych chi wedi elwa o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam?

Mae yna lawer o gefnogaeth, felly rydw i’n teimlo fy mod i’n gallu tyfu’n hyderus fel myfyriwr a gweithiwr proffesiynol i’r dyfodol. Mae’r amgylchedd rhwydweithio yma yn dda iawn, ac mae’n hawdd cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.

Petaech chi’n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn un gair, beth fyddai hynny a pham?

“Anhygoel”, oherwydd imi ddatblygu fy hyder, gwneud llawer o ffrindiau a chwrdd â phobl newydd. Fe ges i’r cyfle ym Mhrifysgol Glyndŵr i wneud modiwlau ychwanegol am ddim, ac roedd y rhain yn ddiddorol iawn gan fy nghynorthwyo i wella ac ennill sgiliau newydd. Mae’n beth da gwybod fod y darlithwyr yn fy adnabod wrth fy enw, a’u bod yn ymwybodol o unrhyw heriau, a’u bod yno bob tro i helpu.