Abigail Schwarz

Bywgraffiad
Mae Abi'n dod o gefndir addysg gynradd ac wedi addysgu mewn ysgolion yn Kirklees, gorllewin Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Mae hi wedi gweithio ar draws y cyfnodau cynradd, wedi arwain darpariaeth adnoddau ar gyfer plant ag anawsterau dysgu cymedrol cymhleth ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio yng Nghyfnod Allweddol 2.
Rhwng 2014 a 2019, roedd Abi yn Bennaeth Cynorthwyol mewn ysgol yn Swydd Amwythig, yn arwain datblygiad cwricwlwm, ac yn mentora hyfforddeion ac athrawon newydd gymhwyso. Athroniaeth ymarfer Abi yw meithrin diwylliant o addysgu a dysgu creadigol. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn gwneud dysgu yn greadigol a diddorol a chael gwared ar y rhwystrau i ddysgu drwy ddulliau addysgu a dysgu arloesol.
Dechreuodd Abi yrfa newydd yn 2019 ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam fel arbenigwr mathemateg ym maes addysg i athrawon.
Mae Abi'n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored gyda'i theulu, yn ogystal â Tae Kwon Do a nofio.
Cymwysterau
BA (Anrhydedd) Gwleidyddiaeth Ewropeaidd (Prifysgol Leeds)
TAR Addysg Gynradd (SAC) (Prifysgol Leeds)
MA Addysg (Prifysgol Metropolitan Manceinion)
CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth)
Ymchwil
Addysgu a dysgu creadigol
Datblygu meddwl mewn ffordd fathemategol
Rhwystrau i ddysgu mathemateg
Datblygu plant i fod yn ddysgwyr gwydn
Cyrsiau
TAR Addysg Gynradd gyda SAC
BA (Anrhydedd) Addysg Gynradd gyda SAC