Alison Williams

Senior Lecturer Nursing

Wrexham University

Cymhwysodd Alison yn wreiddiol yn 1999 ar ôl cwblhau ei Haddysg Nyrs Oedolion yn Ysbyty Aintree, Lerpwl.  Ar ôl cymhwyso, symudodd Alison i fyw i ogledd Cymru, a chyn hir, cafodd ei phenodi fel nyrs staff cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Wrth weithio fel nyrs cymunedol, cwblhaodd Alison ei BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Iechyd a Chymuned Cymhwysol yn llwyddiannus, a daeth yn Nyrs Ardal.

Mae Alison wedi gweithio o fewn addysg nyrsio ers nifer o flynyddoedd, yn wreiddiol fel Darlithydd Ymarferydd mewn Gofal Sylfaenol cyn symud ymlaen at ddod yn Uwch Ddarlithydd yn 2007, ac yn olaf, Arweinydd y Rhaglen Nyrsio Ardal yn 2011.  Cafodd Alison y fraint o dderbyn teitl Nyrs y Frenhines yn 2016 am ei hymrwymiad parhaus i nyrsio cymunedol.

Yn ei hamser hamdden mae Alison yn mwynhau mynd â’i dau gi sbaengi adara am dro, ac mae'n mwynhau'r awyr agored gyda'i theulu.  Eleni, mae Alison wedi dechrau chwarae golff, ac yn fwy diweddar, cofrestrodd ar gwrs Cymraeg.