Andrew Sharp
Ar ôl cwblhau ei radd israddedig ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, buodd Andrew’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) fel technegydd afionig, yn dod o hyd i broblemau ac yn trwsio electroneg awyrennau ar lefel gydrannau, ac yna fel peiriannydd datblygu rhaglen profion Offer Profi Awtomataidd (ATE), yn dylunio ac yn rhaglennu algorithmau profion i gadarnhau defnyddioldeb a theilyngdod hedfan trydaneg awyrennau. Yma, dechreuodd Andrew fentora prentisiaethau a darganfod ei gariad at addysgu.
Yn 2008, gadawodd Andrew’r MOD a daeth yn ddarlithydd yn Coleg Cambria, cyn dod yn arweinydd rhaglen ar gyfer y diploma BTEC estynedig mewn peirianneg.
Ymunodd Andrew â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2015, ac ar hyn o bryd, fe yw arweinydd rhaglen BEng Peirianneg Drydanol ac Electroneg.