Andrew Woods

Uwch Ddarlithydd mewn Lletygarwch a Thwristiaeth

Picture of staff member

Mae Andy Woods yn Arweinydd Rhaglen Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Lletygarwch yn Ysgol Fusnes Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr. Mae ganddo radd meistr MSc mewn Gwyddor Bwyd ac Arloesi, a BA (Anrh) mewn Astudiaethau Addysg.

Cyn symud i’r byd academaidd gweithiodd Andy mewn sawl sector ar draws y diwydiant Lletygarwch, gan gynnwys gwestai, tai bwyta, tafarndai a hyd yn oed arlwyo. Cyn dechrau ym Mhrifysgol Glyndŵr gweithiodd Andy yn y sector Addysg Bellach, gan ddechrau yng Ngholeg Gorllewin Swydd Caer fel Arweinydd Rhaglen cyn symud i swyddi Cyfarwyddwyr Cwricwlwm yng Ngholeg Cambria. Ar hyn o bryd mae Andy yn astudio ar gyfer gradd doethur (EdD) mewn Addysg.

Y tu hwnt i fyd gwaith, mae Andy yn hoff o dreulio amser gyda’i deulu, ac yn mwynhau teithio a mynd allan i fwyta.