Andy Jones

Darlithydd mewn Plismona Proffesiynol

Picture of staff member

Gweithiodd Andy gyda Heddlu Gogledd Cymru am dros 30 o flynyddoedd mewn sawl rôl wahanol. Gweithiodd ym maes Plismona Ymateb a Chymunedol fel Cwnstabl a Rhingyll. Roedd yn Rhingyll yn unedau’r Ddalfa, Plismona Ffyrdd ac Arfau Tanio. Bu’n Gynghorydd Tactegol yr Heddlu ar Arfau Tanio. Perfformiodd rôl Arolygwr Ymateb a Rhanbarth Dros Dro. Datblygodd a rheolodd yr Uned Cymunedau Mwy Diogel ar y Cyd amlasiantaethol yn Wrecsam.

Yn ogystal â meddu ar sylfaen helaeth yn y maes gweithredol a rheoli, bu Andy yn hyfforddwr cyfraith yr heddlu am gyfnod o dair blynedd. Bu’n hyfforddi Swyddogion Heddlu dan hyfforddiant cychwynnol, Cwnstabliaid Arbennig a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, yn ogystal â meysydd arbenigol eraill gan gynnwys y Ddalfa a Thaser; roedd hefyd yn rhan o’r gwaith o ddarparu hyfforddiant amlasiantaethol gan gynnwys hyfforddiant Raglen Ryngweithredadwyedd y Gwasanaethau Brys Ar y Cyd (JESIP) ar bob lefel yn ogystal â hyfforddiant ymchwilio pwrpasol ar gyfer sefydliadau megis CADW.

Ymunodd â Phrifysgol Wrecsam ym mis Ionawr 2019 fel darlithydd ar y radd BA Plismona. Roedd yn rhan o’r broses ddilysu ar gyfer y Radd BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol. Mae’n ymwneud â’r gwaith o ddatblygu Diwrnod Safle Trosedd amlddisgyblaethol y Brifysgol ac ar hyn o bryd yn datblygu hyfforddiant ar y cyd gyda chydweithwyr o adrannau Plismona a Nyrsio.

Mae ganddo BSc (Anrh) mewn Seryddiaeth o Goleg Prifysgol Llundain, mae’n Gymrawd gyda’r Gymdeithas Seryddol Frenhinol ac yn ddiweddar wedi cwblhau MA mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.