Mrs Angharad Roberts

Bywgraffiad
Cymhwysais fel Ffisiotherapydd yn 2019 gyda gradd anrhydedd dosbarth 1af o Brifysgol Salford. Ers cymhwyso, rwyf wedi gweithio fel Ffisiotherapydd gyda’r GIG yn lleol yng Ngogledd Cymru gan ennill profiad mewn ystod eang o arbenigeddau Ffisiotherapi. Yn fwy diweddar, rwyf wedi arbenigo yn ardal glinigol Ffisiotherapi Iechyd y Pelfis. Rwy’n parhau i weithio’n glinigol fel Ffisiotherapydd Arbenigol Clinigol ochr yn ochr â’m rôl yn y Brifysgol. O wneud hyn rwy’n cael profiadau clinigol ac academaidd.
Rwyf wedi cwblhau Tystysgrif Ôl-radd mewn Ymataliaeth ar gyfer Ffisiotherapyddion ym Mhrifysgol Bradford.
Cymwysterau
BSc (Anrh) Ffisiotherapydd
Tystysgrif Ôl-radd mewn Ymataliaeth ar gyfer Ffisiotherapyddion
Cyrsiau
BSc (Anrh) Ffisiotherapi