Dr Caroline Gorden

Darllenydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Wrexham University

Wedi cwblhau fy PhD yn 2006, gweithiais fel Hwylusydd Rhaglen-benodol ar Raglen Triniaeth Troseddwyr Rhyw Dyffryn Tafwys. Wedi symud i Ganada i fod gyda fy ngŵr, gweithiais ym meysydd digartrefedd a chaethiwed ymysg menywod. Wedi dychwelyd i’r DU 12 mlynedd yn ôl, ymunais â Phrifysgol Glyndŵr fel Darlithydd, ac yna Uwch Ddarlithydd, ac ar hyn o bryd, Darllenydd. Rwy’n aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Ymchwil Cymdeithas y Figaniaid, ac mae gennyf ddiddordeb penodol mewn meysydd ymchwil sydd yn rhoi sylw i amaethu anifeiliaid a ffermio ffatri mewn perthynas â cham-drin anifeiliaid a newid hinsawdd.

Mae fy llyfr newydd yr wyf yn gyd-awdur arno, Constructing Guilt and Innocence: Case Studies of Famous Trials (sydd i’w gyhoeddi ym mis Ebrill 2022) wedi ei seilio ar un o’r modiwlau mae ein myfyrwyr yn ei astudio. Pob wythnos rydym yn astudio treial troseddol enwog a fu’n llawn dadl ynghylch euogrwydd neu ddieuogrwydd y diffynnydd. Rydym yn edrych ar safbwyntiau troseddegol, seicolegol, cymddeithasegol a chyfreithiol i’n cynorthwyo i egluro pam y cafwyd y diffynnydd yn ddieuog neu eu barnu’n euog. Mae hwn yn fodiwl unigryw y mae myfyrwyr yn tueddu i’w fwynhau‘n fawr iawn a’i gael yn hynod ddiddorol.

Rwyf wrth fy modd yn goruchwylio myfyrwyr PhD ac yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau ar wahanol faterion yn ymwneud â throsedd a chyfiawnder.

Rwy’n byw yn Swydd Amwythig gyda fy ngŵr a thri o blant ifanc.