Chris Taylor

Bywgraffiad
Mae gan Chris Radd Meistr mewn Seicoleg o’r Brifysgol Agored. Mae ganddo ddiplomâu ôl-raddedig mewn gwyddor datblygiad cymdeithasol plant. Mae ganddo ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio gyda phlant agored i niwed a phlant sydd wedi dioddef trawma, a hynny fel ymarferydd rheng flaen a rheolwr wrth gyfrannu at adfer ar gyfer pobl ifanc sydd yn cyflwyno ystod o broblemau cysylltiedig â thrawma ac anawsterau ymlyniad cynnar, gan gynnwys lefelau uchel o drais, hunan-niweidio, ymddygiad dianc parhaus a rhywioli.
Roedd yn allweddol wrth ddatblygu partneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol arloesol, i weithio ar ymyriadau seicogymdeithasol therapiwtig gyda phobl ifanc sydd ag anawsterau iechyd meddwl ac anhwylderau personoliaeth, sydd yn aml yn arddangos ymddygiad risg uchel, gan gynnwys hunan-niweidio, para-hunanladdiad ac sydd mewn perygl o ddioddef cam-fanteisio rhywiol a throseddol.
Yn ychwanegol at ddysgu ar y radd Gofal Plant Therapiwtig, mae’n parhau i hyfforddi gweithwyr preswyl, gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, addysgwyr, a rheolwyr ym maes ymlynu, yma yn y DU ac yng Ngwlad Pwyl.
Mae ei ddau lyfr ar ymarfer sy’n ymwneud ag ymlyniad, trawma a phrofiadau niweidiol wedi eu cyfieithu i’r Bwyleg. Mae wedi annerch cynulleidfaoedd mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar destun hunan-niweidio, gwaith therapiwtig, ymlyniad, trawma a Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs)
Mae Chris yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored ac yn hoff iawn o seiclo, gan reidio rhyw 10000 cilometr y flwyddyn.
Cymwysterau
Tystysgrif Gymeradwy mewn Goruchwyliaeth Glinigol, Cymdeithas Seicolegol Prydain
Diploma mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol
Meistr Gwyddoniaeth mewn Seicoleg
Diploma Uwch mewn Datblygiad Plant
Diploma ôl-raddedig mewn Gwyddor Gymdeithasol
Gradd Anrhydedd BSc (2.1)
Tystysgrif mewn Ymarfer ar Sail Tystiolaeth
Tystysgrif mewn Rheoli Gofal
Tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diploma mewn Cwnsela, Coleg Rusland
Lefel 4 – Tystysgrif Addysgu Addysg Bellach (7407), City and Guilds
NVQ Lefel 4 – ar gyfer Rheolwyr mewn Gofal Plant Preswyl, City and Guilds
NVQ Lefel 4 – Gofal, City and Guilds
NVQ Lefel 3 – Gofalu am Blant a Phobl Ifanc, City and Guilds
VRQ Lefel 3 – Diogelu Plant a Phobl Ifanc, City and Guilds
Lefel A Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth
Ymchwil
Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod
Ymlyniad ar draws y rhychwant oes
Sefydliadau sy’n Ystyriol o Drawma Trawma
Cyrsiau
SOC629 Yr Amgylchedd Therapiwtig
SOC502 Damcaniaeth Ymlyniad Cymhwysol
SOC606 Cyfraith, Polisi ac Ymarfer Gofal Plant
SOC440 Damcaniaeth Ymlyniad
SOC505 Datblygiad Rhywiol ac Effaith Camdriniaeth Rywiol
SOC439 Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant: Safbwyntiau Beirniadol ar Ddiogelu
Cyhoeddiadau
A Practical Guide to Caring for Children and Teenagers with Attachment Difficulties, Jessica Kingsley: London. (2010)
Empathic Care for Children with Disorganized Attachments: A Model for Mentalizing, Attachment and Trauma Informed Care, Jessica Kingsley: London. (2012)
Zaburzenia Przywiazania u Dzieci i Mtodziezy (translation) (2016). Gadanskiego Wydawnictwa Psychologicznego: Gadansk
Dzieci i młodzież ze zdezorganizowanym stylem przywiązania. Podejście mentalizowania w empatycznej opiece opartej na wiedzy o przywiązaniu i traumie (translation) (2020). Gadanskiego Wydawnictwa Psychologicznego: Gadansk