Dr Christopher White

Darlithydd mewn Iechyd, Iechyd Meddwl a Lles

Picture of staff member

 

Ymunodd Chris â Phrifysgol Glyndŵr ym mis Chwefror 2021 ar ôl gweithio ym Mhrifysgol Caer fel Darlithydd Cymdeithaseg Chwaraeon (2014-2020), Prifysgol Newman fel Darlithydd Datblygu Chwaraeon (2020-2021), a Phrifysgol Fetropolitan Manceinion fel Darlithydd Gwadd mewn Iechyd a Lles (2019-2021).

Mae bron â gorffen ei PhD ym Mhrifysgol Gaer, wedi cwblhau ei MSc Cymdeithaseg Chwaraeon ac Ymarfer Corff (2014) a BSc Chwaraeon a Gwyddorau Ymarfer Corff (2013) yn yr un sefydliad. Mae ei draethawd ymchwil PhD yn archwilio teithio llesol fel mater iechyd cyhoeddus ymysg ymarferwyr iechyd y cyhoedd amrywiol.

Y tu allan i addysg uwch, mae Chris wedi arwain nifer o Ysgolion Haf Iaith Saesneg ac mae’n rhedwr brwd (er nad yw’n gyflym iawn) a chwaraewr/hyfforddwr hoci.