Colin Heron

Bywgraffiad
Yn wreiddiol wedi hyfforddi fel peiriannydd trydanol, newidiodd Colin ei yrfa ac mae wedi gweithio am fwyafrif ei fywyd gwaith mewn amryw safle ar ddau ochr y ddesg cymysgu. Fel cerddor, chwaraeodd bas a chanu mewn sawl band ac yn unigol. Gan roedd ganddo wastad ddiddordeb yn y dechnoleg roedd y bandiau’n defnyddio, daeth cilgam gyrfa arall pan fuddsoddodd mewn system sain a dechreuodd weithio i fandiau fel peiriannydd sain. Ehangodd y fenter yma i gynnwys stiwdio i recordio’r bandiau roedd o’n gweithio hefo hwy.
Yng nghanol y 90au cafodd Colin y cyfle i hyfforddi’n academaidd ar radd Technoleg Sain yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl. Ar ôl graddio daeth Colin i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam a helpu i adeiladu’r cyfleusterau yn yr adran pwnc. Colin yw’r Arweinydd Rhaglen Technoleg Sain ac mae’n arbenigo mewn Systemau Byw, Dyluniad Stiwdio a Recordio Stiwdio. Mae’n aelod cyflawn o’r Gymdeithas Peirianwyr Clywedol.
Mae Colin yn Ddeon Cysylltiol Cyfadran ac yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr. Ei arbenigeddau addysgu yw sain byw, rheoli a dadansoddi systemau sain ar raddfa fawr, dylunio stiwdio a recordio stiwdio.
Cymwysterau
- MSc Sain a Fideo Proffesiynol
- BA (Anrh) Technoleg Sain
Ymchwil
- Technoleg Sain
- Datblygiad Addysgol
- Dylunio System Sain
Cyrsiau
- BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngol
- BSc (Anrh) Technoleg Cerdd a Sain
- BSc (Anrh) Sain a Fideo Proffesiynol
Cyhoeddiadau
- Hughes, C., Pickles, N., Taylor, C., Heron, C., Horder, S. and Owen, A. (2021) An evaluation of the value of being part of the Academic Development Team Associates Network at Wrexham Glyndŵr University.
- Taylor, C., Heron, C., Horder, S., Hughes, C., Owen, A. and Pickles, N. (2020) Leading Accelerated Educational Development. Educational Developments Vol 21 No.3.
- Heron, C., Horder, S., Richardson, J. and Taylor, C. (2018) The distributed educational development team. Educational Developments Vol 19 No.2.
- HERON, C., 2015. A practical approach to teaching loudspeaker cabinet tuning and testing. AES UK 26th Conference: Audio Education.
- HERON, C., 2007. A hardware solution for access to CAA for students with reduced manual dexterity due to acute neurodisability - A case study. IN: Khandia, F. (ed.). 11th CAA International Computer Assisted Assessment Conference : Proceedings of the Conference on 10th and 11th July 2007 at Loughborough University. Loughborough : Loughborough University, pp. 279-288.