Daniel Pope

Uwch Ddarlithydd mewn Cynhyrchu Teledu

Wrexham University

 

Mae gen i ddiddordeb mawr ym mhob agwedd ar y cyfryngau, ac ugain mlynedd o brofiad mewn Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau, Ffilm a Darlledu. Cyn fy nghyfnod yn Wrecsam roeddwn yn olygydd VFX ar ddrama plant y BBC ‘The Worst Witch’. Roedd hyn yn cynnwys rheoli elfennau effeithiau gweledol llif gwaith golygyddol y gyfres a chreu cyfansoddion ac effeithiau eraill. Roedd y rôl hon yn gofyn am ddealltwriaeth gadarn o Avid Media Composer a Foundry’s Nuke.

Cyn hyn roeddwn yn uwch beiriannydd yn Framestore, sef y cyfleuster effeithiau gweledol ac ôl-gynhyrchu mwyaf yn Ewrop ac wedi’i leoli yn Llundain, Montreal ac Efrog Newydd. Yma roeddwn yn cydweithio â Goruchwylwyr Effeithiau Gweledol sydd wedi ennill Oscar ac roeddwn yn gyfrifol am offer golygu ffilm a chyfarpar cysylltiedig. Roedd hyn yn cynnwys parhau i fod yn gyfredol yn yr holl brif dechnolegau a dyfeisio atebion llif gwaith fesul prosiect. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwn treuliais un diwrnod yr wythnos yn darlithio ar Animeiddio ac Effeithiau Gweledol ym Mhrifysgol Salford.

Yn ogystal â’m profiad ôl-gynhyrchu a VFX rwyf wedi treulio oriau lawer ar set. Tra oeddwn yn stiwdio fach SLV a chyfleuster criwio yn ne Llundain, cynorthwyais griwiau ar nifer o gynyrchiadau yn amrywio o fideos cerddoriaeth, hysbysebion a ffotograffiaeth cynnyrch. Yn ogystal yn ystod fy nghyfnod yn Framestore treuliais amser ar set y ffilm ‘War Horse’ yn gweithredu system recordio symudiadau heb farciwr a ddatblygais fy hun.

Rwy’n mwynhau parhau i fod yn gyfredol gyda thechnegau a thechnolegau creadigol ac rwy’n cael pleser mawr o rannu fy ngwybodaeth a’m profiad gydag eraill.