Daniel Finnerty

Uwch Ddarlithydd Gwyddoniaeth Parafeddyg

Picture of staff member

 

Cymhwysodd Daniel fel parafeddyg yn 2007 ar ôl mynychu Prifysgol Sheffield Hallam. Mae’n frwd dros addysg i Barafeddygon ac fe ddechreuodd ei siwrnai fel addysgwr parafeddygol yn Diwtor Addysg Glinigol gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Llundain ble bu’n astudio ar gyfer ei ddiploma mewn addysgu a hyfforddi, gan ddod yn Addysgwr Lleoliad Ymarfer i Barafeddygon.

Yn ystod ei yrfa mae Daniel wedi gweithio fel Parafeddyg gyda phedwar Ymddiriedolaeth Ambiwlans gyda’r GIG yn y DU gan ennill profiad a dealltwriaeth gadarn o rôl y Parafeddyg modern. Mae hefyd wedi gweithio mewn canolfannau meddygol ar longau mordaith gan deithio’r byd. Mae hyn yn golygu bod ganddo brofiad o weithio fel rhan o dîm gofal iechyd amlddisgyblaethol, o asesu a rholi amrywiaeth o gyflyrau cleifion a gofalu am gleifion mewnol.

Cyn ymuno â Phrifysgol Wrecsam roedd Daniel yn ddarlithydd mewn Gwyddor Parafeddygol ym Mhrifysgol Dinas Caerdydd ble bu’n astudio ac ennill Tystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch a Chymrodoriaeth gyda’r Academi Addysg Uwch.

Ar hyn o bryd mae Daniel yn ymgymryd â chymhwyster Meistr Gwyddoniaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ble mae’n archwilio’r pynciau sydd o ddiddordeb iddo sef Addysg Parafeddygon ac efelychu.

Mae gan Daniel ddyfarniad mewn hyfforddi personol ac yn ei amser hamdden mae’n mwynhau ymarfer corff a rhedeg.