Mr Daniel Knox
Rwy’n angerddol dros ddylunio cynnyrch a gwneud cynhyrchion ymarferol a fydd yn para. Rwyf wedi bod mewn sawl swydd gyffrous yn ystod fy ngyrfa, mewn gwahanol ddiwydiannau dylunio a pheirianneg, o ffabrigau perfformiad a nwyddau defnyddwyr electronig premiwm i nwyddau defnyddwyr sy’n symud yn gyflym (FMCG). Mae’r profiad amrywiol hwn wedi fy rhoi mewn sefyllfa fanteisiol yn y diwydiant ac fel darlithydd mae wedi fy ngalluogi i ddysgu a phrofi amrywiaeth o dechnegau, methodolegau dylunio a ffyrdd o weithio o amrywiaeth o feysydd a sefyllfaoedd.
Yn 2014 cefais gynnig swydd yn Dyson a hynny wedi rhoi’r cyfle i mi wella fy sgiliau mewn dylunio, ymchwil i ddefnyddwyr, prototeipio, profi a dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu; treuliais beth amser yn Singapore yn paratoi cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu.
Rwyf hefyd wedi gweithio yn Unilever yn y Ganolfan Dechnoleg Fyd-eang, a oedd â ffocws cryf ar fentora dylunwyr iau, datblygu dyluniadau ar gyfer cynhyrchu màs a llunio cynlluniau a strategaethau i ddiwallu Cynllun Byw yn Gynaliadwy Unilever.
Yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn darlithio Dylunio Cynnyrch (BA a BSC) ym Mhrifysgol Nottingham Trent (lle rwy’n gyn-fyfyriwr) a hefyd fel Darlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Caer.
Y tu allan i’r gwaith rwy'n hoffi rhedeg a beicio llawer a chael gymaint o antur â phosibl gyda ffrindiau a theulu.