Mr David Crighton

Bywgraffiad
Bu David yn gweithio mewn llawer o leoliadau addysg ffurfiol ac anffurfiol cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr.
Ymhlith ei brofiad blaenorol mae gweithio fel tiwtor ar y cynllun Playing for Success a ariennir gan y Llywodraeth yn Leeds United a Stadiwm Headingley.
Ar ôl hyn, bu’n gweithio i’r BBC fel Rheolwr Prosiect Addysg ar y prosiectau arobryn All Together Now a First Click. Roedd yn cyfuno hyfforddiant y cyfryngau cymunedol gyda chynhyrchu cynnwys darlledu.
Ers hynny, mae wedi addysgu sawl cwrs addysg a chynhyrchu’r cyfryngau, yn y sector AB/AU, o Lefel 2 i Lefel 7.
Cymwysterau
MA Addysg
Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg
BA Anrh. Y Cyfryngau a Rheoli
Cymrawd AAU
Ymchwil
Mae gan David ddiddordeb mewn marchnata addysg uwch a goblygiadau hynny ar werthoedd ac arferion gwaith staff academaidd. Ar hyn o bryd, mae’n cwblhau ei Ddoethuriaeth o fewn ei faes diddordeb.
Cyrsiau
Tystysgrif Ôl-raddedig/Diploma mewn Addysg
Cyhoeddiadau
Shepherd, W, Fishwick, L, Crighton, D, Starkie, S. (2019). Augmented Reality: A Pleasure or Pain?. Prism. 2 (2), t62-77.