David Sprake
Mae David yn uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg ac yn arweinydd rhaglen ar gyfer Peirianneg Adnewyddadwy a Chynaliadwy.
Cyn symud i faes addysg uwch, treuliodd David 10 mlynedd yn gweithio ym maes Peirianneg (contractio ac ymgynghori) prosiectau fel gorsafoedd pŵer, adeiladu ffyrdd, amddiffynfeydd môr, iechyd y cyhoedd (dŵr crai), tirfesur topograffig, peirianneg strwythurol.
Enillodd David y gwobrau canlynol gan Undeb y Myfyrwyr (pleidlais myfyrwyr):
- Enillydd: Darlithydd Gorau 2019
- Enillydd: Hyrwyddwr Cynaliadwyedd 2020
- Rhestr Fer Hyrwyddwr Cynaliadwyedd 2021
Mae David hefyd yn gweithio yn y rolau canlynol gyda’r Brifysgol:
- Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol (aelod etholedig o blith y staff academaidd)
- Cyfarwyddwr Arloesiadau Glyndŵr Cyf (busnes sydd gan y Brifysgol)
- Hyrwyddwr Gwyrdd y Brifysgol
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl 2021
Mae David yn cydweithio gyda diwydiant a sefydliadau academaidd eraill:
Asesu eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy potensial.
Partneriaeth trosglwyddo gwybodaeth gyda Envirohire (busnes lleol) i ddatblygu offer profi newydd arloesol ar gyfer pwmp gwres o’r ddaear.
Arholwr allanol ar gyfer rhaglenni ynni adnewyddadwy Ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd (Yr Alban) (2016-2020).
Aelod o’r Panel Dilysu Allanol FdSc Ynni a’r Amgylchedd, 2019, sefydliad partner Prifysgol Suffolk.
Darlithydd gwadd rhaglen Erasmus: (European Community Action Scheme for the Mobility of University Students) gan ddysgu yn ICAM, Lille, Ffrainc. 2017, 2019, 2020.
Darlithoedd gwadd rheolaidd: IMechE, bord gron, amrywiol “Newid Hinsawdd ac Ynni Adnewyddadwy - Y datrysiadau a’u problemau” (2020).
Prif Siaradwr: Cynhadledd Systemau Ynni Trydanol. Prifysgol Dechnegol Genedlaethol Lutsk, Yr Wcráin. Rhagfyr 2020.
Aelod panel arbenigol: Uwchgynhadledd Ranbarthol COP Yr Hinsawdd, Mehefin 2021.
Ar hyn o bryd mae David yn cwblhau ei PhD mewn sut gellir adeiladu neu ôl-ffitio ystadau tai mawr i fod yn garbon niwtral drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, storio ynni a gridiau clyfar.
Mae David yn hoff o deithio ac yn mwynhau cerdded a beicio mynydd yn ei amser hamdden. Sefydlodd ei wefan ei hun, www.solicitor.info <http://www.solicitor.info>, er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i gyfreithiwr dibynadwy.