Deborah Cheadle

Bywgraffiad
Enillais gymwysterau Nyrs Oedolion yn 1998 ac wedyn treuliais ddwy flynedd ar uned lawfeddygaeth gyffredinol a oedd yn arbenigo mewn gofalu am y coluddion. Oherwydd fy angerdd dros ofal sylfaenol penderfynais ymuno â’r tîm nyrsio cymunedol yn 2000. Ar ôl cwblhau BSc Anrhydedd mewn Astudiaethau Iechyd a Chymunedol Cymhwysol yn 2003, bûm yn gweithio fel Nyrs Ardal. Yn 2005 deuthum yn Rheolwr Tîm o fewn y gwasanaeth Nyrsio Ardal gan weithio gydag amrywiol dimau yng Ngogledd Cymru. Yn 2014 cefais yr anrhydedd o ennill gwobr Nyrs y Frenhines ar sail fy ymroddiad i bractis cymunedol. Ymunais â Glyndŵr ym mis Ebrill 2017 fel Hwylusydd Addysg Practis.
Cymwysterau
Diploma mewn Nyrsio, BSc Anrh Astudiaethau Iechyd a Chymunedol Cymhwysol, MSc Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Teitlau – Nyrs Gyffredinol Gofrestredig, Nyrs Ardal, Nyrs y Frenhines
Ymchwil
Rheoli Briwiau Pwyso, Addysg yn y sector proffesiynol
Cyrsiau
Darparu hyfforddi mentora ar gyfer nyrsio cyn ac ôl cofrestru.