Dylan Rhys Jones

Bywgraffiad
Ar ôl cwblhau LLB ym Mhrifysgol Aberystwyth bu Dylan yn ymarfer fel cyfreithiwr am dros 20 mlynedd cyn iddo droi at ddysgu. Bu Dylan yn gweithio fel tiwtor/darlithydd yng Ngholeg Cambria yn dysgu’r gyfraith/gwleidyddiaeth a gwasanaethau cyhoeddus, datblygodd gyrsiau Cymraeg a dwyieithog a gweithiodd ar radd Sylfaen Cyfiawnder Troseddol gyda Phrifysgol Caer. Mae Dylan yn awdur y llyfr ‘The Man in Black’ sy’n adrodd hanes pan oedd fel cyfreithiwr yn cynrychioli llofrudd cyfresol. Mae gan Dylan brofiad sylweddol o weithio ar y teledu a’r radio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gan Dylan ddiddordeb mewn llawer o chwaraeon ac mae wrth ei fodd yn sgïo, cerdded mynyddoedd a physgota ac mae ganddo'r uchelgais o gerdded i Wersyll Sylfaen Everest rhyw ddydd.
Cymwysterau
TAR
Diploma mewn Addysgu ac Addysgu Dwyieithog
Arholiadau Proffesiynol Cyfreithwyr
LLB
Ymchwil
Cyfraith droseddol
Cyfiawnder troseddol
Hanes y Gyfraith
Cyfraith Cymru a Datganoli
Cyrsiau
Cyhoeddiadau
‘The Man in Black’ Dylan Rhys Jones ‘Y Lolfa’