Miss Elen Mai Nefydd

Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio

Wrexham University

Graddiodd Elen Mai gyda BA (Anrh) a gradd Meistr yn y Celfyddydau (Rhagoriaeth) o Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth. Cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr roedd hi’n gyflwynydd teledu ac yn actores broffesiynol. Mae wedi bod yn gydlynydd addysgol yn Theatr Clwyd, gan gynnal gweithdai drama ar gyfer cynyrchiadau prif dŷ Theatr Clwyd.

Mae Elen Mai yn Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn asesydd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yng Nghymru.
Mae Elen Mai yn angerddol dros y Gymraeg a hi yw Hyrwyddwr y Gymraeg yn y Brifysgol. Hi yw Areithydd swyddogol y Brifysgol.Yn ddiweddar dyfarnwyd gwobr Cydweithiwr y flwyddyn iddi ynghyd â gwobr yr Is-Ganghellor am ei chyfraniad i’r Gymraeg yng Ngwobrau Above and Beyond staff y Brifysgol yn 2020. Hi enillodd y Wobr Darlithydd Gorau yng Ngwobrau Undeb y Myfyrwyr yn 2018.

Mae Elen Mai yn cyfrannu’n rheolaidd at y cyfryngau Cymraeg ar y teledu a BBC Radio Cymru ac i gylchgronau Cymraeg megis Golwg a Barn.

Yn ei hamser sbâr mae hi wrth ei bodd yn rhedeg, cael gwydraid o win yn achlysurol, mynychu sioeau byw a gwrando ar gerddoriaeth fel The Verve a The Stone Roses. Ar y penwythnosau mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda’r teulu ac yn fam i Gwen a William Idris.