Mrs Emma Constantine

Uwch Ddarlithydd mewn Addysg (QTS)

Wrexham University

Mae Emma yn athrawes gynradd hyfforddedig sydd wedi dysgu mewn ysgolion prif ffrwd yn Lloegr ar gam Un a Dau, ac mae hi hefyd wedi dysgu mewn ysgolion arbennig ar gyfer disgyblion sydd ag anableddau dwys a lluosog. Astudiodd ar gyfer gradd israddedig mewn Ieithyddiaeth ac Anhwylderau Cyfathrebu ym Mhrifysgol Manceinion, gyda chwrs TAR Cynradd wedi hynny ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Yn fwy diweddar, cwblhaodd Emma MA mewn Addysg (AAA) ac mae hefyd wedi ennill cymwysterau proffesiynol fel athro ac asesydd dyslecsia.

Mae Emma yn byw yn yr Amwythig gyda’i gwr a’i dau fab yn eu harddegau, ac yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau rhedeg a cherdded yng nghefn gwlad, yn ogystal â theithio tramor.