Dr Frances Williams

Bywgraffiad
Mae Dr Frances Williams yn awdur ac yn ymchwilydd. Mae ganddi brofiad hir o weithio â’r Celfyddydau ym maes Iechyd fel curadur, ymgynghorydd a gwerthuswr. Wrth wneud gwaith addysg mewn oriel, dechreuodd brosiectau i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am y celfyddydau mewn lleoliadau iechyd (meddwl) cymunedol, gan fynd yn ei blaen i gyd-raglennu panel arbenigol fel rhan o raglen gwerth diwylliannol yr AHRC (Rooke, 2014). Yn 2015, comisiynodd artistiaid i weithio gyda myfyrwyr meddygol yng Ngholeg y Brenin Llundain fel rhan o raglen blwyddyn ar y testun ‘Utopia’, o’r enw Are You Feeling Better? Enillodd ysgoloriaeth ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion i astudio'r berthynas rhwng y Celfyddydau mewn Iechyd, a datganoli rhanbarthol rhwng 2016-2019 (Williams, 2019).
Mae hi bellach yn blogio’n rheolaidd, ac yn awdur nifer i erthyglau cyfnodolion ar y Celfyddydau mewn Iechyd a’r cyd-destunau gwleidyddol-economaidd y mae’r ymarfer rhyngddisgyblaethol hwn wedi’u lleoli ynddynt (Somatosphere, Performance-Research, Frontiers). Mae pennod sy’n edrych ar ‘fethiant’ llwyddiant canfyddedig y Celfyddydau mewn Iechyd i’w chyhoeddi gan Routledge yn 2021 (golygwyd gan Cameron Cartiere ac Anthony Schrag). Ar hyn o bryd mae’n addysgu ar MA newydd Prifysgol Glyndŵr ar y Celfyddydau mewn Iechyd ac mae’n gyd-sylfaenydd Rhwydwaith Celfyddydau Critigol ar gyfer Iechyd (CAHN).
Cymwysterau
PhD
(maes: y Celfyddydau mewn Iechyd, datganoli)
Ymchwil
Daearyddiaeth ddynol y celfyddydau ac iechyd, ffurfiau’r celfyddydau ac iechyd mewn sefydliadau, critigoldeb o fewn ac ar draws y disgyblaethau hyn, symudiadau cymdeithasol ar gyfer iechyd
Cyrsiau
MA y Celfyddydau mewn Iechyd
Modiwlau:
- Theori ac Ymarfer y Celfyddydau mewn Iechyd
- Cyd-destunau a Lleoliadau’r Celfyddydau mewn Iechyd
- Y Celfyddydau mewn Ymarfer Iechyd
Cyhoeddiadau
‘The Whispering Gallery: creating space for criticality within arts and health’. Double Agency, edited by Sarah Smizz Sheffield Hallam University (online publication 2017)
https://www.docdroid.net/iH5ec6I/double-agency-a5-finished-pdf#page=10
‘Tommies: a very British haunt?’ Somatosphere, (Dec 2020)
http://somatosphere.net/2020/call-for-submissions-for-new-series-the-hospital-multiple.html/