Graeme Park

Darlithydd, Technoleg Cyfryngau Creadigol

Picture of staff member

Rydw i wedi gweithio yn y diwydiant gerdd drwy gydol fy mywyd ac yn dal i wneud heddiw.

Chwaraeais mewn amrywiaeth o fandiau cyn dod yn DJ ym 1984. Roeddwn yn DJ yn y clybiau adnabyddus Hacienda ym Manceinion, Cream yn Lerpwl a Ministry of Sound yn Llundain.

Rwyf wedi darlledu ers y 1990au cynnar yn cynnal sioeau ar Kiss FM, Galaxy, Key 103, Radio City a mwy. Rwyf hefyd wedi rhedeg fy label recordio a gweithio mewn A&R ar gyfer prif labeli hefyd. Rwyf wedi cynhyrchu fy ngherddoriaeth fy hun yn ogystal ag ailgymysgu artistiaid megis Inner City, The Brand New Heavies a New Order.

Des yn rhan o dîm Technoleg Cyfryngau Creadigol Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2008 ond dwi'n parhau i DJio o gwmpas y DU, Ewrop a thu hwnt wrth gynhyrchu fy sioe radio wythnosol.

Mae gen i brofiad Technoleg Cyfryngau Creadigol cyfoethog gall myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam fuddio ohono drwy'r modiwlau rwyf yn eu dysgu.