Mrs Hanna Meakin

Uwch Ddarlithydd mewn Ymweld Iechyd

Picture of staff member

Dechreuais fy siwrnai nyrsio ym Mhrifysgol Manceinion gan gwblhau gradd mewn nyrsio oedolion (BNURS anrh). Unwaith imi gymhwyso fel nyrs, dechreuais ar fy ngyrfa yn gweithio mewn lleoliadau Ysbyty acíwt yn Lloegr ac yng Nghymru. Fodd bynnag, bu gen i ddiddordeb mawr erioed mewn hybu iechyd ac felly es ymlaen i wneud cymhwyster Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (drwy’r llwybr ymwelydd iechyd) yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Unwaith imi gymhwyso fel ymwelydd iechyd gweithiais mewn sawl ardal wahanol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

Enillais MSc yn 2018 wrth weithio mewn ymarfer clinigol, ac ar gyfer hyn fe gwblheais draethawd ymchwil ar fy maes arbenigol o ddiddordeb - iechyd meddwl amenedigol. O’r cyfnod a dreuliais fel nyrs ac ymwelydd iechyd deuthum i deimlo’n frwd ynghylch cefnogi myfyrwyr gyda’u dysgu mewn ymarfer clinigol. Felly pan ddaeth y cyfle i ddod yn ddarlithydd prifysgol ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2020 roeddwn yn awyddus i barhau i gefnogi dysgu myfyrwyr o safbwynt academaidd.

Rwyf hefyd yn ddiweddar wedi cwblhau’r Dystysgrif Ôl-radd Addysgu a Dysgu mewn Addysg Uwch gan ddod yn gymrawd (FHEA) yn 2021.

Fel Nyrs Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol rwyf o’r farn y dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd. Rwyf felly’n teimlo ei bod hi’n fraint bod yn rhan o deithiau myfyrwyr er mwyn iddynt hwythau hefyd gefnogi’r teuluoedd yn eu gofal i gyflawni’r canlyniadau gorau posib.

Yn fy amser hamdden rwy’n mwynhau bod yn greadigol a cherdded yng nghefn gwlad.