Mrs Hayley Douglas

Bywgraffiad
Mae gan Hayley fwy na 13 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn cychwyn o ddysgu Saesneg yn Siapan i fyfyrwyr llai academaidd.
Wrth ddychwelyd i'r DU, gweithiodd Hayley mewn amryw o roliau gwaith ieuenctid rhan amser yn ymgymryd â gwaith yn seiliedig mewn canolfannau a gwaith datgysylltiedig yn ardal Bryste. Yna cafodd waith llawn amser gyda Heddlu Avon a Somerset fel Gweithiwr Cyswllt Ieuenctid ar gyfer Bryste.
Yn dilyn hyn, gweithiodd Hayley i fudiad cymunedol yn rheoli darpariad ieuenctid symudol yng Ngogledd Somerset, yn gyrru bys dau lawr yn rheolaidd! Ar ôl symud i Ogledd Cymru gweithiodd Hayley i Gymunedau'n Gyntaf yn Fflint, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam fel Uwch Ymarferwr ac yn olaf fel Arweinydd Tîm i brosiect Gofalwyr Ifanc Sir y Fflint.
Cafodd Hayley ei MA yng Ngwaith Ieuenctid a Datblygiad Cymunedol o Brifysgol De Montford i ennill ei chymhwyster JNC ac i adeiladu ar ei phrofiad gwaith ieuenctid a datblygu gwybodaeth a sgiliau mwy arbenigol ers ei gradd BA Troseddeg a Seicoleg o Brifysgol Keele.
Tu allan i'r gwaith mae Hayley i'w chanfod yn treulio amser gyda'i 2 fab ifanc sy'n ei chadw'n brysur ac mae hi'n edrych ymlaen at gwblhau ei PGCPD a chychwyn astudiaethau doethuriaeth yn y dyfodol.
Cymwysterau
PhD - Disgrifiadau Gweithwyr Ieuenctid o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ac ymgymryd ag Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma. Dadansoddi disgwrs a’i effaith ar hunaniaeth broffesiynol. CYFREDOL i’w gwblhau 2023.
Tystysgrif ôl-radd mewn Dysgu a Thechnoleg
Tystysgrif ôl-radd mewn Datblygu Proffesiynol mewn Addysg Uwch
MA Gwaith Ieunctid a Datblygiad Cymunedol (JNC)
BSc (Anrh Deuol) Troseddeg a Seicoleg
Ymchwil
Mae Hayley yn ymgymryd ymchwil yn gwerthuso effaith prosiectau gwaith ieuenctid ar bobl ifanc ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Ar hyn o bryd mae Hayley yn gwneud PhD ar destun Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) a sut mae hyn yn siapio ymarfer gwaith ieuenctid; gan fabwysiadu dull mwy beirniadol tuag at y disgwrs cyfredol.
Ymysg y meysydd eraill sydd o ddiddordeb mae:
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Ymarfer Gwrth-ormesol
- Polisi Gwaith Ieuenctid
- Addysgu ac Asesu Gweithwyr Ieuenctid mewn Addysg Uwch
- Gwaith Ieuenctid Digidol
- Datblygu Cymunedol
Cyrsiau
Cyhoeddiadau
Achilleos, J., Douglas, H. and Washbrook, Y. (2021) ‘Educating Informal Educators on Issues of Race and Inequality: Raising Critical Consciousness, Identifying Challenges, and Implementing Change in a Youth and Community Work Programme’ Education Sciences, 11, no. 8: 410. https://doi.org/10.3390/educsci11080410
Achilleos, A. & Douglas, H. (2019) ‘Redressing the Balance of Power in Youth and Community Work Education: a case study in assessment and feedback’. Chapter 10 in Seal, M. (Ed.) (2019) Teaching Youth Work in Higher Education. Tartu University, Estonia. https://www.humak.fi/wp-content/uploads/2020/01/2020-01-Teaching-Youth-Work-in-Higher-Education_web.pdf
Review of the National Youth Work Strategy for Wales 2014-2018, Welsh Government https://gov.wales/review-national-youth-work-strategy-2014-2018