Mrs Helena Jones Rozario

Darlithydd mewn Cwnsela

Wrexham University

Wedi hyfforddi aeth ymlaen i weithio fel athrawes ysgol uwchradd. Bu’n dysgu Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth, Hanes a Saesneg i fyfyrwyr rhwng tair ar ddeg a deunaw mlwydd oed.

Bu’n gweithio fel darlithydd sesiynol yn adran ieithoedd Prifysgol Glyndŵr tros yr wyth mlynedd diwethaf.

Mae hefyd wedi gweithio fel darlithydd Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) mewn coleg Addysg uwch tros y tair blynedd diwethaf.

Penderfynodd ar newid gyrfa gan hyfforddi ym Mhrifysgol Glyndŵr fel Therapydd sy’n Canolbwyntio ar Unigolion. Yna ym mis Medi 2021, symudodd i swydd barhaol yn darlithio cwnsela gyda’r adran gwnsela ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mae’n byw yng Nghaer, ac wedi byw mewn sawl gwlad wahanol felly mae wrth ei bodd yn teithio a phrofi diwylliannau newydd. Mae’n mwynhau Celf, Hanes, Athroniaeth, Ffilm, Theatr a Garddio.

Mae’n parhau i archwilio ei diddordebau Academaidd gyda gradd Meistr potensial i’r dyfodol ym maes trawma yn ystod plentyndod ac anaf i’r ymennydd.