Huw Hughes

Bywgraffiad
Mae Huw ar hyn o bryd yn rhannu ei amser rhwng darlithio ar y cwrs Theatr, Teledu a Pherfformiad ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a pherfformio rôl yn y gyfres deledu 'Rownd a Rownd'.
Dywedodd: "Er fy mod wedi cadw mewn cysylltiad gyda'r diwydiant ers bod ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae mynd yn ôl i actio ar y lefel ddwys yma mewn cyfres a phroffil mor uchel, wedi fy atgoffa o nifer o'r heriau a'r pleserau o weithio fel actor proffesiynol."
Symudodd Huw i Landudno ychydig flynyddoedd yn ol gyda'i wraig a'i dri o blant a bydd yn parhau i ddarlithio rhan amser ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ochr yn ochr â'i rôl deledu.
Cyrsiau
BA (Anrh) Theatr, Teledu a Pherfformio