Jackie Raven

Uwch Ddarlithydd mewn Cwnsela

Wrexham University

Cymhwysodd Jackie fel cwnselydd sy’n canolbwyntio ar unigolion yn 1996, ac aeth i weithio i’r GIG ac yn breifat. Parhaodd i astudio a chyflawnodd statws ‘seicotherapydd ardystiedig’ gyda UKCP. 

Gweithiodd Jackie o fewn y sectorau preifat a chyhoeddus fel therapydd, a chynhaliodd bractis preifat drwy gydol hynny. Magodd ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant a hyfforddodd/gweithiodd ar gyfer sefydliad a oedd yn arbenigo mewn anawsterau ymlyniad a brofir gan blant sy'n derbyn gofal.

Cynhaliodd Jackie bartneriaeth fusnes yn hyfforddi gofalwyr maeth a rhieni mabwysiadol ar sut i helpu plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma. 

Erbyn hyn, mae ganddi bractis goruchwylio bach yn ogystal â swydd ddarlithio ym Mhrifysgol Wrecsam.