Miss Jenna Brook

Uwch Ddarlithydd mewn Theatr a Pherfformio

Wrexham University

Ymunodd Jenna â Phrifysgol Glyndŵr yn 2014 ac mae’n Uwch Ddarlithydd ar y radd BA (Anrh) Celfyddydau Perfformio.
Mae gan Jenna brofiad helaeth mewn Perfformiadau yn yr Awyr Agored, gan fod â chefndir mewn Theatr Gymunedol a’r Syrcas.

Mae wedi gweithio ers dros bymtheng mlynedd fel perfformiwr, dyfeisiwr  ac awdur, ac mae wedi ysgrifennu a chyfarwyddo addasiadau llawn ar gyfer y radd.

Fel perfformiwr, arbeniga Jenna mewn rhyngweithio â chynulleidfaoedd a  chlownio, ac ar hyn o bryd mae hi wrthi’n cynnal ymchwil ymarferol i ddulliau addysgu di-eiriau, sy’n ymgorffori technegau clownio. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio hyn ar draws modiwlau fel offeryn gweithdy a thechneg ymarfer, ac mae hi wedi’i ymgorffori’n llwyddiannus yn ei haddysgu.

Mae Jenna yn mwynhau nofio gwyllt, a thyfu ei bwyd ei hun – rhywbeth sy’n gynyddol bwysig o ran cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd. Heblaw am y rhain, mae’r rhan fwyaf o ddiddordebau Jenna yn gysylltiedig â’i hymarfer creadigol. Y tu allan i’r gwaith gallwch yn aml ddod o hyd iddi yn... gwneud mwy o waith! Mae hyn yn cynnwys: perfformio, ysgrifennu  ffuglen, bwyta tân, gwnïo gwisgoedd, a gwneud animeiddio stop-symud.