Mrs Jess Achilleos

Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Picture of staff member

Mewn bywyd blaenorol, roedd Jess yn Hyfforddwr Campfa ac yna’n Rheolwraig Manwerthu. Ffrangeg ac Athroniaeth oedd pynciau ei gradd Israddedig. Pan sylweddolodd nad maes Rheoli Manwerthu oedd yr un iddi hi, aeth yn ôl i astudio gan ennill Cymhwyster Proffesiynol a Gradd Meistr mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mae wedi gweithio ar draws Gogledd Orllewin Lloegr yn darparu a datblygu prosiectau i gefnogi pobl ifanc agored i niwed. Mae wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, Gwasanaethau Cymdeithasol, Uwch-dimoedd Arweinyddiaeth mewn ysgolion uwchradd a gwasanaethau Sector Gwirfoddol eraill i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed a’u cefnogi.

Sefydlodd a rheoli Rhaglenni Addysg Amgen ar gyfer pobl ifanc nad oes modd iddynt fynychu ysgol neu goleg. Mae’n parhau i ymarfer fel Gweithiwr Ieuenctid Datgysylltiedig ar Gilgwri.

Ymunodd â Prifysgol Wrecsam yn 2015 ac mae’n angerddol dros sicrhau bod Addysg yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb. Mae’n arwain ac yn cefnogi amrywiol brosiectau i ddatblygu cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn Addysg Uwch, gan amrywio o Gydraddoldeb Hiliol i arferion asesu teg.

Mae hi wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau ac ymchwil Gwaith Ieuenctid yma ym Mhrifysgol Wrecsam, gan gynnwys gwerthuso’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru (2017).

Y tu hwnt i’w gwaith mae’n weithgar yn wleidyddol yn ei chymuned ac yn gwirfoddoli ar gyfer elusen leol sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae ganddi dri chi mawr, sy’n ei chadw’n gall, felly mae’n gwneud llawer o gerdded!