Joanne Prescott

Darlithydd mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Wrexham University

Dechreuodd Jo ei gyrfa fel Nyrs Iechyd Meddwl, gan ganolbwyntio ar weithio gyda chleifion a oedd yn dioddef o Sgitsoffrenia, Anhwylderau Personoliaeth ac Iselder. Yn dilyn hyn, aeth Jo yn ei blaen i weithio gyda phlant a oedd yn derbyn gofal mewn lleoliadau preswyl.

Yna, treuliodd Jo weddill ei gyrfa gyn-academaidd yn sefydlu prosiect peilot ar gyfer y lloches nos gyntaf i’r digartref yn Wrecsam, lle y bu’n gweithio fel Uwch Weithiwr Prosiect.

Yn 2013 cofrestrodd Jo fel myfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ar y cwrs BA mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, a graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Ers cwblhau ei BA, mae Jo wedi ennill Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – unwaith eto, ym Mhrifysgol Glyndŵr – ac yn fuan cafodd swydd fel Cynorthwyydd Dysgu Graddedig ar y cwrs BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol.

Mae Jo bellach yn Ddarlithydd llawn amser ac mae wrthi’n cwblhau ei PhD sy’n archwilio’r dull adsefydlu yn CEM Berwyn. Mae diddordeb Jo mewn carchardai a’r amgylchedd carcharu yn parhau.