Joanne Turley

Bywgraffiad
Gadewais yr ysgol yn 16 oed, yn frwd eisiau mynd i weithio ac ennill fy arian fy hun. Bues yn gweithio yn y byd gwasanaethau ariannol a bancio am 25 mlynedd, yn cyflawni cymwysterau proffesiynol mewn cynllunio ariannol (pensiynau, buddsoddi, ac yswiriant) a morgeisi. Yn y bôn, roeddwn bob amser yn gwybod fy mod yn yr yrfa anghywir felly, pan gefais fy niswyddo yn fy 40au cynnar, penderfynais ailhyfforddi a dechreuais astudio'r rhaglen BSc (Anrh) Seicoleg yn PGW.
Gwnes fwynhau’r profiad cymaint, rwyf yma hyd heddiw! Ar ôl cwblhau fy ngradd israddedig, dechreuais astudio ar gyfer fy noethuriaeth a chefais swydd fel Cynorthwyydd Addysgu Graddedigion yn yr Adran Seicoleg. Pan ddaeth y contract hwnnw i ben, gwnes barhau i weithio yn yr adran fel Uwch Ddarlithydd, ac erbyn 2016, roeddwn yn aelod parhaol, llawn amser, o’r tîm academaidd.
Wedi ail-danio fy niddordeb mewn dysgu, rwy’n parhau i astudio ac ar fin cyflwyno fy PhD ar ddechrau 2022. Er bydd seibiant o astudio’n braf, rwy’n siŵr y byddaf yn canfod fy her ddysgu nesaf cyn hir.
Y tu hwnt i ddysgu, rwy'n mwynhau treulio amser gyda'm teulu a ffrindiau. Yn benodol, rwyf wrth fy modd yn teithio, ac rwyf wedi ymweld â sawl lle rhyfedd a rhyfeddol. Rwyf hefyd yn mwynhau’r theatr ac yn mynychu cyngherddau’n achlysurol. I mi, darllen yw un o bleserau mwyaf bywyd, yn ogystal â choginio a phobi.
Cymwysterau
2016 PGCPD, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
2013 (Ar waith) PhD (Seicoleg)
2012 BSc (Anrh), Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
2009 Diploma Damcaniaeth ac Ymarfer Cwnsela
2006 Tystysgrif Sgiliau Cwnsela, Rhwydwaith Coleg Agored
2013 Aelod y Gymdetihas Seciolegol Prydening
2016 Cymrawd Academi Addysg Uwch
Ymchwil
Seicoleg gymdeithasol - Plant a chyfathrebiad digidol.
Rwyf yn gwneud fy PhD yn yr ardal yma a fy prif ffocws yw’r effaith seicolegol mae cyfathrebiad digidol yn ei gael ar blant ysgol gynradd. Mae ymchwil yn dangos bod rhan fwyaf o blant yn cyfathrebu'n ddigidol drwy neges destun, ffôn symudol neu sgwrs ar-lein, ond does dim llawer o ymchwil ar sut mae hyn yn effeithio eu hunan-barch, hunan effeithiolrwydd a llesiant goddrychol.
Seicoleg Cwnsela / Gwahaniaethau unigol
O fewn Seicoleg Cwnsela, rwy’n canolbwyntio ar yr elfennau gwahaniaethau unigol a phersonoliaeth, gan fy mod â diddordeb mewn proffil math seicolegol cwnselwyr. Yn benodol, mae gen i ddiddordeb yn y berthynas rhwng cwnselydd unigol â’i fodel dewisol o gwnsela.
Cyrsiau
BSc (Anrh) Seicoleg
BSc (Anrh) Seicoleg (gyda blwyddyn sylfaen)
MSc Seicoleg (Trosiad)
Cyhoeddiadau
Turley, J., Lewis, C. A., Musharraf, S., & Breslin, M. J. (2018). Psychometric properties of three measures of “Facebook engagement and/or addiction” among a sample of Pakistani students. International Journal of Mental Health and Addiction.
Madoc-Jones, I., Williams, E., Hughes, C., & Turley, J. (2016). Prison building “Does size matter? A re-assessment. Prison Service Journal, (227), 4-10.
Robbins, M., & Turley, J. (2016). Psychological type of person-centred counsellors. Psychological Reports. 118(1), 128-138.
Roberts, D., Hibberd, P., Lewis, C. A., & Turley, J. (2014). Developing quality care metrics for community clinical nurse specialists in rural Wales, British Journal of Clinical Nursing, 19(12), 601-617.
Turley, J., Baker, S. A., & Lewis, C. A. (2014). Expectations and levels of understanding when using mobile phones among 9-11 year olds in Wales, UK. Pastoral Care in Education, 32(3),208-217.