Julian Ayres

Darlithydd Addysg ac Arweinydd Edefyn Blwyddyn Sylfaen (addysg)

Picture of staff member

Cyn gweithio ym Mhrifysgol Wrecsam roeddwn i’n dysgu mewn ystod o leoliadau addysgol gan gynnwys cefnogi aelodau o’r gymuned o bobl ddigartref drwy fy ngwaith mewn canolfan genhadol yn Plymouth, yn dysgu Saesneg, mathemateg a llythrennedd digidol mewn Addysg Bellach yn ogystal â chefnogi staff yn y gweithle gyda datblygu sgiliau gwaith. Rwyf hefyd wedi gweithio fel asesydd ar gyfer athrawon, cynorthwywyr dysgu a staff cymorth ym maes addysg yn Lloegr ac yng Nghymru.

Mae fy ffocws yn yr ystafell ddosbarth wedi bod erioed ar gefnogi datblygiad personol drwy wahaniaethu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth a chynorthwyo myfyrwyr i adnabod perthnasedd yn y profiad dysgu; gan gynorthwyo gyda chymhelliant ac ymgysylltu â’u hastudiaethau.

Rwyf wedi gweithio ers sawl blwyddyn ar ddulliau addysgu a dysgu digidol, ac wedi defnyddio hyn yn fy ngwaith fel Addysgwr Google, ac erbyn hyn fel rhan o’r tîm Addysg Digidol i gefnogi’r Fframwaith Dysgu Gweithredol yn ein hystafell ddosbarth.

Pan nad wyf yn addysgu, rwy’n rhedwr pellteroedd eithafol ac yn driathletwr. Rwy’n helpu i drefnu clwb nofio dŵr agored yn Ellesmere ac yn treulio llawer o’m hamser rhydd yn hyfforddi a chefnogi athletwyr yn yr ardal leol.

Cyn ymuno â’r tîm addysgu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, roedd Julian yn Diwtor Saesneg a Mathemateg gydag ystod o wahanol leoliadau addysg oedolion ac Addysg Bellach.
Mae’n defnyddio’i brofiadau o weithio mewn canolfannau cenhadol, prosiectau ymgysylltu â phobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) a’r sectorau dysgu gydol oes i helpu cefnogi datblygiad parhaus pob myfyrwyr.


Mae ganddo brofiad o ddefnyddio technoleg ddigidol i ehangu potensial pob sefydliad dysgu a’u staff – gan gefnogi datblygiad ystod o raglenni yn y Brifysgol i’r dyfodol.

Ymysg ei ddiddordebau personol mae rhedeg marathonau eithafol, triathlon a nofio dŵr agored.