Karen Cartwright

Darlithydd mewn Ffisiotherapi - Adsefydlu a Niwroleg

Picture of staff member

Mae Karen wedi bod yn Ffisiotherapydd ers 26 mlynedd gan arbenigo mewn gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu.

Mae Karen yn gweithio’n rhan amser ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac yn dysgu ar y cwrs Ffisiotherapi BSc (Anrh). Mae Karen hefyd yn gweithio’n rhan amser yng Ngholeg Derwen yng Nghroesoswallt fel rheolwr gwasanaethau ffisiotherapi a chlinigwraig ar gyfer myfyrwyr. Mae Karen yn cynnig ffisiotherapi i oedolion ifanc sydd ag anableddau dysgu, gan ganolbwyntio ar alluogi mynediad at addysg a rheolaeth/ailhyfforddiant cymunedol ar gyfer cyflyrau niwrolegol a hir dymor. Mae hi hefyd yn gyfrifol am symud a thrin pobl, o ran asesiad risg a hyfforddiant staff.

Cyn hyn, bu Karen yn gweithio mewn nifer o sefydliadau gofal iechyd annibynnol ac Ymddiriedolaethau’r GIG. Arweiniodd hyn at Karen yn dod yn Ddarlithydd mewn Ffisiotherapi yn Sefydliad Colchester, Swydd Essex. Gan droi yn ôl at yr ochr glinigol ac ar ôl gweithio am 13 mlynedd gyda phobl ag anableddau dysgu mae Karen wedi parhau i fod yn ddarlithydd gwadd ar raglenni ffisiotherapi israddedig.

Mae Karen yn mwynhau ei theulu, yr eglwys a rhedeg gyda’i chi. Mae hi'r un mor hapus yn cerdded a dringo ag y mae hi yn gweu a chrosio.