Karen Griffiths

Bywgraffiad
Dechreuais ar fy ngyrfa nyrsio sawl blynedd yn ôl drwy gyflawni fy Nhystysgrif Nyrsio Orthopaedig. Yna, cwblheais nyrsio cyffredinol a gweithio mewn ward feddygol acíwt fel Nyrs Staff. Roedd fy swydd gyntaf fel Uwch Nyrs ym maes Rhiwmatoleg. Yna, gweithiais mewn llawer o wardiau ac adrannau orthopaedig a chwblheais gwrs ymarferydd nyrsio brys a chymhwyster nyrsio plant yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl treulio blwyddyn fel Hwylusydd Lleoliadau Clinigol yn cefnogi myfyrwyr nyrsio ar leoliad, symudais i addysg uwch fel Darlithydd Nyrsio Plant.
Cyn ymuno â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam roeddwn i’n Uwch Ddarlithydd Nyrsio Plant ym Mhrifysgol Swydd Stafford gyda chyfrifoldebau ychwanegol fel Arweinydd Cwrs ac Arweinydd Dyraniadau Dysgu Ymarferol Nyrsio Plant. Gan fod gen i hyfforddiant yn y ddau faes, ro’n i hefyd yn cyfrannu at fodiwlau a rennir a modiwlau nyrsio oedolion.
Mae gen i gi bach (Sbaengi) sy’n fy nghadw i’n brysur (ac yn gwneud i mi ymarfer corff). Rwy’n mwynhau gwylio amrywiaeth o chwaraeon ac yn mwynhau sioeau cwis a dramâu.
Cymwysterau
Nyrs Gofrestredig - Cyffredinol
Nyrs Gofrestredig - Plant
MSc Addysg Broffesiynol mewn Gofal Iechyd
PGCE Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Addysg Uwch
BSc (Anrh.) Nyrsio gyda Gwobr Uwch ENB
Diploma Addysg Uwch - Nyrsio Plant
Diploma Allanol Prifysgol Llundain - Nyrsio
Tystysgrif Nyrsio Orthopaedig
Uwch Gymraeg AAU
Ymchwil
Cadw myfyrwyr
Dysgu ymarfer
Adolygiad llenyddiaeth oedd fy nhraethawd hir ar gyfer y radd feistr o’r enw: Are reasonable adjustments made in clinical placement areas for students with dyslexia?
Cyrsiau
Baglor Nyrsio (Anrh.)
Cyhoeddiadau
Penodau yn: Glasper, A., Coad, J. a Richardson, J. (Eds) (2015) Children and Young People’s Nursing at a Glance Chicester Wiley Blackwell