Dr Karen Heald

Darllenydd mewn Ymarfer Celf Rhyngddisgyblaethol

Picture of staff member

Mae Karen yn Uwch Ddarlithydd ac yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer yr MA Celf a Dylunio, sy’n cynnwys pedair rhaglen:

MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf
MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Dylunio
MA Y Celfyddydau mewn Iechyd
MA Ymarfer Curadurol a Chynhyrchu Creadigol

Mae Karen yn arwain ar y rhaglenni MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Celf ac MA Ymarfer Rhyngddisgyblaethol Dylunio ac ynghyd ag addysgu, arddangos, ysgrifennu a chyflwyno mewn cynadleddau, mae Karen hefyd yn artist gweledol, yn wneuthurwr ffilmiau ac yn ymchwilydd. Mae ei hymchwil yn archwilio cysyniadau amser, creadigrwydd a’i berthynas â fideo, penodolrwydd safle, a chymhlethdodau athronyddol cynlluniau cydweithredu rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth.

Mae ei gwaith celf wedi esblygu o wneud gwaith yn benodol ar safle ac mewn preswylfeydd rhyngwladol. Mae wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o gydweithrediadau gydag ymarferwyr amrywiol fel artistiaid, artistiaid sain, dawnswyr, cerddorion, gwyddonwyr, meddygon a nifer o academyddion eraill. Mae ei hymchwil ar ymarfer cydweithredol wedi’i osod yng nghyd-destun:

- Celf Gyfoes
- Ymchwil y Celfyddydau a Gwyddoniaeth
- Gweithredu Ffeministaidd
- Ymarfer Cydweithredol
- Dulliau sy’n ymateb i safle

Trwy amrywiaeth o gyfryngau – sef yn bennaf fideo, gosodweithiau, ffotograffiaeth a pherfformio – mae Karen wedi esblygu ei hiaith weledol farddonol ei hun sy’n mynd i’r afael â’r gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng paentio, ffotograffiaeth a ffilm. Mae wedi creu iaith ‘breuddwyd arlunyddol’ sy’n cysylltu materion cymdeithasol anodd â phenillion gweledol sy’n gynnil ac yn anuniongyrchol.

Mae Karen wedi lledaenu ei gwaith ledled Ewrop, America ac Asia, a hynny drwy amryw o breswylfeydd artistiaid, arddangos mewn orielau a mannau anhraddodiadol, cyflwyniadau mewn gwyliau ffilm, cynadleddau, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau.
Mae ei swyddi blaenorol wedi cynnwys: mentor ar gyfer artistiaid sy’n creu gwaith ar gyfer arddangosfeydd Celf a Gwyddoniaeth, Cyngor Celfyddydau Cymru (2018–2019); Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (2012–2018) Prifysgol Bangor; a Darlithydd ar y rhaglen MA Celfyddyd Gain, Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau (2014–2018) Prifysgol Bangor. Rhwng 2011 a 2014 roedd Karen yn Ymchwilydd / Artist Preswyl Anrhydeddus yn adran seiciatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn 2012 daeth yn aelod o fwrdd Rhwydwaith Celf a Gwyddoniaeth y Gogledd. Roedd ei hymchwil ym Mhrifysgol Salford, gyda’r Grŵp Ymarfer Celf Gain Gyfoes (2009-2012), wedi canolbwyntio ar naratif, deallusrwydd synhwyraidd a dysgu cinesthetig drwy fframweithiau creadigol.