Karen Rhys Jones

Prif Ddarlithydd mewn Addysg

Picture of staff member

 

Cyn ymuno â Wrecsam, roedd Karen yn athrawes uwchradd a rheolwr cynnydd gyda chyfrifoldebau bugeiliol. Daeth i gydnabod pwysigrwydd lles mewn perthynas â dysgu, a natur amlddisgyblaethol lles.

Ym Mhrifysgol Wrecsam mae Karen yn brif ddarlithydd ac yn Arweinydd Addysg Gychwynnol i Athrawon; mae’n arwain ar y Rhaglen TAR Addysg Gynradd gydag athrawon Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac mae’n arweinydd pwnc ar gyfer Addysg gorfforol. Roedd Karen yn allweddol wrth sicrhau ‘r rhaglenni Addysg Gynradd SAC dan ryddfraint o St Mary’s, Twickenham, ac mae’n mwynhau gweithio gyda chohortau o athrawon dan hyfforddiant.

Mae Karen wedi dysgu ar sawl modiwl Addysg a Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, gan gyfrannu at raglenni israddedig ac ôl-radd.

Mae Karen yn Ymgynghorydd Llythrennedd Corfforol ar gyfer Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gyfrannu at brosiectau sy’n ymwneud â lles a llythrennedd corfforol gan gefnogi athrawon ac ymarferwyr (o fewn byd Addysg a thu hwnt) i ddatblygu cymhelliant, hyder, sgiliau a gwybodaeth unigolion i werthfawrogi, mwynhau a bod yn gyfrifol am eu gweithgaredd corfforol.

Mae Karen yn byw’n lleol gyda’i gŵr, tri o blant a thri chi. Mae’n mwynhau bod allan yn yr awyr agored ac wedi cyflwyno gweithdai cerdded ar gyfer cyfarfodydd adran. 

Mae Karen yn gantores frwd, ac un uchafbwynt oedd canu’r Anthem Genedlaethol ar y cae yn Stadiwm y Principality gyda Chantorion Sirenian, cyn gêm rygbi’r chwe gwlad.