Dr Kathryn Ellis

Uwch Ddarlithydd mewn Hanes

Picture of staff member

Graddiodd Kathryn o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, gyda gradd anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn Hanes. Dychwelodd i Aberystwyth i gwblhau ei PhD ar 'Arfer a Gweithdrefn y Tŷ Cyffredin, 1660-1714'. Mae hi wedi cyhoeddi ar hanes seneddol, cofebion Rhyfel Byd Cyntaf ac agweddau o fywyd cymdeithasol a diwylliannol yn ymwneud â Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae Kathryn yn dysgu modiwlau ar hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol ar lefel isradd ac wedi datblygu cyrsiau byr ar Hanes Teulu a Chymuned ac Astudiaethau Celtaidd. Mae hi hefyd yn Arweinydd Rhaglen MA Hanes Lleol sy'n canolbwyntio ar ardal Gogledd Ddwyrain Cymru.