Lauren Salisbury

Uwch Ddarlithydd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith

Picture of staff member

Roeddwn yn gweithio i BIPBC yng Ngogledd Cymru fel Therapydd Iaith a Lleferydd rhwng 2010 - 2021. Arbenigais mewn darparu asesiadau a thriniaeth i blant rhwng 0-5 oed, gydag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu arferol, yn ogystal â phlant gydag anableddau dwys a chymhleth a/neu awtistiaeth. Rwy’n gymwys mewn ymyriadau arbenigol megis Rhyngweithio rhwng Oedolyn/Plentyn (ACI) ac It Takes Two to Talk a More than Words gan Hanen.

Cefais fy mhenodi yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y BSc Therapi Iaith a Lleferydd yn 2021. Rwy’n dal i fod yn aelod cofrestredig RCSLT a HCPC.