Ms Liz Lefroy

Bywgraffiad
Wedi graddio o brifysgolion Durham, Bryste a Keele, gweithiais ym maes addysg a gofal cymdeithasol mewn sectorau statudol a thrydydd sector yng Nghaeredin, West Lothian, Barkshire a Swydd Amwythig, cyn ymuno â PGW yn 2006. Mae fy athroniaeth o ran Addysg yn ymwneud â tharddiad y gair - o’r Lladin, educare - i dynnu allan. Fy nod yw gweithio gyda myfyrwyr i helpu i feithrin eu sgiliau, eu rhinweddau a’u gwerthoedd mewn modd sy’n arwain at dwf personol a phroffesiynol.
BA (Anrh) Hanes o Brifysgol Durham oedd gradd gyntaf Liz, yna symudodd ymlaen i wneud PGCE mewn addysg eilradd ym Mhrifysgol Bryste. Symudodd Liz i Gaeredin lle daeth yn ddarlithydd mewn coleg Addysg Bellach ac yna'n Swyddog Addysg mewn gwasanaethau dydd awdurdod lleol ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu.
Ym 1992 gweithiodd i Gyngor Swydd Amwythig fel rhan o gynllun arloesol i sicrhau cyflogaeth ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu. Rhoddodd MA mewn Seicoleg o Brifysgol Keele y cyfle i Liz archwilio'r gwreiddiau damcaniaethol i'w gwaith a chanolbwyntiodd ei thraethawd hir ar fodelau dadleuwriaeth.
Symudodd Liz i'r sector wirfoddol ym 1996 yn rheoli tîm o staff yn cefnogi pobl gyda nam golwg ac anghenion cymhleth. Fel Swyddog Hyfforddi yn yr un mudiad, gweithiodd yn galed i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, llawer ohonynt heb fodd ffurfiol o gyfathrebu, mewn hyfforddi a datblygu staff.
Cyflogwyd Liz gan NEWI (Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ers 2008) yn 2006 fel Cydlynydd Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaeth ar gyfer y BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol ac ymglymodd yn sydyn a rhaglenni gradd eraill (e.e. Nyrsio a TG) ac mewn dysgu ar y rhaglenni Gwaith Cymdeithasol a'r radd gyda blwyddyn sylfaen Gofal Plant Therapiwtig.
Fel bardd wedi'i chyhoeddi'n eang, mae Liz yn ymddiddori mewn defnydd dynesiad creadigol i ddysgu ac addysgu a chwblhaodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Keele yn 2011.
Cymwysterau
BA (Anrh) Hanes, Prifysgol Durham
MA (Teilyngdod) Seicoleg, Prifysgol Keele
PGCE, Prifysgol Bryste
2002 – Dyfarniad Asesydd NVQ (D32 & 33, City & Guilds)
2002 – Dyfarniad Asesydd NVQ (D32 & 33, City & Guilds)
2007 – Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd
MA (Teilyngdod) Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Keele
2015 – Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Ymchwil
Gwaith cymdeithasol a chreadigrwydd, cyfranogiad defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.
Cyfranogiad mewn addysg gwaith cymdeithasol
Y celfyddydau a gwaith cymdeithasol
Cyrsiau
BA (Anrh) Gwaith Cymdeithasol
Cyhoeddiadau
Morris, G., Prankard, S. and Lefroy, L. (2013) Animating experience: Bringing student learning to life through animation and service user and carer experience, Journal of Practice Teaching and Learning, 12(1), tud.17-28.
Lefroy, L. (2012) Completing the circle – working with students, service users and carers to develop animated narratives of experience (Glyndŵr University) in: Kelsey, D. ed. Enhancing Learning and Teaching in Higher Education in Wales, HEA (Cymru),
Lloyd, M., Lefroy, L., Yorke, S., Mottershead, R. (2011) Working with carers in educational settings: developing innovations in practice, The Journal of Mental Health Training, Education and Practice , tud. 135-141
Lefroy, L. (2008) Working in Groups and Teams, in Lloyd, M. and Murphy, P. Essential Study Skills for Health and Social Care, Exeter, Reflect Press
Cyhoeddiadau Eraill:
Pamffledi barddoniaeth –
Pretending the Weather, Long Face Press, 2011
The Gathering, Long Face Press, 2012
Mending the Ordinary, Fair Acre Press, 2014
Cyhoeddiadau mewn cylchgronnau a siwrnalau barddoniaeth a llenyddiaeth gan gynnwys Mslexia, The Frogmore Papers, Magma, Ink, Sweat and Tears, Writers’ Hub, The Writing Room
Cyflwynydd rheolaidd ‘Poetry Roundup’ ar BBC Radio Shropshire
Enillydd Gwobr Roy Fisher Prize ar gyfer gwaith barddoniaeth newydd yn 2011