Athro Mandy Robbins

Bywgraffiad
Mae’r Athro Mandy Robbins PhD yn Seicolegydd Siartredig ac yn aelod o Gymdeithas Seicolegol America. Cyn ei phenodi i Brifysgol Glyndŵr gweithiodd ym mhrifysgolion Warwick a Bangor, ble canolbwyntiodd ei hymchwil ar bersonoliaeth a gwahaniaethau unigol mewn perthynas â chred grefyddol, ymarfer crefyddol a lles.
Mae’n eistedd ar fwrdd golygyddol y British Journal for Religious Education, yn Olygydd Cyswllt gyda’r Journal of Empirical Theology ac yn gyd-olygydd cyfres Brill, Studies in Theology and Religion. Mae’n awdur pum llyfr a thros 200 o benodau mewn erthyglau.
Cafodd Mandy ei gradd gyntaf o Brifysgol Cymru, Llanbedr ym 1992 yn Niwinyddiaeth ac Archeoleg, ei MPhil mewn Diwinyddiaeth yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ym 1996, a'i PhD mewn Seicoleg Crefydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn 2002.
Yn 2005 cwblhaodd ddiploma olradd gyda'r Brifysgol Agored mewn Seicoleg. Yn 2011 cafodd statws siartredig gyda'r BPS. Mae Mandy yn ymarferwr cymhwysol MBTI. Gweithiodd fel cymrawd ymchwil is yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin o 1995-1999.
Yna symudodd i Brifysgol Cymru, Bangor, fel cymrawd dysgu ac ymchwilio yn 1999-2007. Yn 2007 symudodd i Brifysgol Warwick fel uwch gymrawd ymchwil cyn symud i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam yn 2011 fel uwch ddarlithydd.
Cymwysterau
BA, Dip Psych, PGCert, MPhil, PhD, FHEA, CPsychol, CSci, AFBPsS
1992 BA Anrhydedd ar y cyd, archeoleg/diwinyddiaeth, Prifysgol Cymru, Llanbedr.
1996 MPhil, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.
2002 PhD, Prifysgol Cymru, Bangor.
2003 Ymarferwr Myers Briggs , OPP, Rhydychen.
2005 Diploma Olradd Seicoleg, Prifysgol, Agored.
2006 Tystysgrif Olradd Dysgu yn Addysg Uwch, Prifysgol Cymru, Bangor.
2007 Tystysgrif Sgiliau Cwnsela, OCN.
Seicolegydd siartredig a Chymrawd Cydymaith Cymdeithas Seicolegol Prydain.
Ymchwil
Personoliaeth a gwahaniaethau unigol
Pobl ifanc a hawliau dynol
Iechyd seicolegol sy’n ymwneud â gwaith
Crediniaethau a moesau pobl yn eu harddegau. Gwahaniaethau unigol. Clerigwragedd yn Eglwys Lloegr. Iechyd seicolegol cysylltiedig â gwaith.
Cyrsiau
Sgiliau Astudio Lefel 4
Gwahaniaethau unigol Lefel 5
Traethawd Hir Lefel 6
MSc Seicoleg Crefydd, Cyflwyniad
MSc Traethawd hir Seicoleg Crefydd
MSc Seicoleg Crefydd a Dull Gwahaniaethau Unigol
MRes dysgu wedi'i drafod
MRes modiwl traethawd hir
Rwyf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr PhD a Doeth Proff
Cyhoeddiadau
Robbins, M. (2000). Leaving before adolescence: Profiling the child no longer in the church, in L. J. Francis, & Y.J. Katz (Eds), Joining and Leaving Religion: Research perspectives. Leominster: Gracewing, tud 103-128.
Robbins, M. (2003). Parishioners’ attitude toward women vicars in the Church in Wales: A matter of age or experience? In R. Pope, (Ed.), Honouring the Past and Shaping the Future: Religious and biblical studies in Wales. Leominster: Gracewing, tud 253-264.
Robbins, M. (2005). Attitude to smoking among teenage girls: is religion a significant but neglected factor? In L.J. Francis, M. Robbins, & J. Astley, (Eds) Religion, Education and Adolescents: International and empirical perspectives, Cardiff: University of Wales Press, tud 94-106.
Robbins, M., & Francis, L.J. (2009). The spiritual revolution and suicidal ideation: An empirical enquiry among 13- to 15-year-old adolescents in England and Wales. International Journal of Children’s Spirituality, 14, 261-272. ISSN 1364-436X.
Robbins, M. (2012). Denominational identity and cultural heritage: A study among adolescents attending Protestant and Catholic secondary schools in Northern Ireland. In F-V. Anthony & H.-G. Ziebertz (Eds.). Religious identity and national heritage: Empirical-theological perspective. tud 171-194. ISBN 9789004228757