Dr Martyn Jones

Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg

Picture of staff member

Cwblhaodd Martyn ei brentisiaeth beirianneg yn Airbus UK, Brychdyn, cyn ymgymryd ag MEng mewn Peirianneg Awyrenegol (Prifysgol Lerpwl 2008). Yn dilyn cyfnod ym myd diwydiant yn dylunio cydrannau strwythurol cyfansawdd ar gyfer Arirbus A350 (Assystem UK, 2011) dychwelodd at ei waith academaidd i weithio fel swyddog prosiect ar brosiect ASTUTE (Advanced Sustainable Manufacturing Technologies) Cymru, gan gynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru gyda gweithgynhyrchu uwch a dylunio. Bu’n rheoli’r prosiect yn 2012 ac yn fuan cynigiodd Prifysgol Glyndŵr ddarlithyddiaeth iddo mewn peirianneg fecanyddol.

Mae Martyn wedi gweithio hefyd gyda Glyndŵr Innovations Limited, sef cangen fasnachol y Brifysgol, o ran dylunio cydrannau ar gyfer systemau optomecanyddol ar gyfer telesgopau. Mae gan Martyn PhD mewn Arwynebau Optegol Ysgafn, gan gwblhau nifer o brosiectau wedi’u hariannu yn y maes hwn.

Ar hyn o bryd Martyn sy’n rhedeg y rhaglenni prentisiaeth gradd mewn peirianneg (cynhyrchu, Mecanyddol, Trydanol, Ynni Carbon Isel) ac ef yw’r cyswllt rhwng y diwydiant a’r Brifysgol.

Y tu allan i’r gwaith, mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser rhydd yn cerdded yng nghefn gwlad Cymru a Swydd Gaer gyda’i gi neu, fel cefnogwr chwaraeon brwd, yn dilyn Clwb Pêl-droed Wrecsam.