Dr Mobayode Akinsolu

Darlithydd mewn Peirianneg Electronig a Chyfathrebu

Picture of staff member

Ers 2019, mae Mobayode wedi bod mewn swydd ddarlithio lawn amser ym Mhrifysgol Wrecsam, ar ôl bod yn ddarlithydd fesul sesiwn yn y brifysgol ar wahanol adegau rhwng 2017 a 2019. Derbyniodd ei MSc (gyda Rhagoriaeth) mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig o Brifysgol Bradford yn 2014, ar ôl ei astudiaethau israddedig (prentisiaeth/hyfforddiant diwydiannol mewn systemau pŵer a Pheiriannau trydanol, a bagloriaeth mewn Peirianneg Drydanol) a gwasanaeth cenedlaethol gorfodol yn Nigeria.

Yn 2016, derbyniodd ysgoloriaeth ymchwil PhD ar gyfer prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Wrecsam a Phrifysgol Birmingham. Canolbwyntiai ei brosiect PhD ar ddefnyddio technegau deallusrwydd artiffisial i hwyluso’r gwaith o ddylunio dyfeisiau electromagnetig. Cwblhaodd ei PhD o ddwy brifysgol (ar y teitl: Efficient Surrogate Model-Assisted Evolutionary Algorithm for Electromagnetic Design Automation with Applications) yn 2019 yn sgil cydweithredu rhwng Prifysgol Wrecsam a Phrifysgol Caer gyda chanmoliaeth am ei gyhoeddiadau (gan gynnwys pennod lyfrau a thros 20 o bapurau) yn ymwneud â gwaith ei PhD.

Cyn y dyfarnwyd yr ysgoloriaeth ymchwil PhD iddo, roedd wedi bod yn gymrawd ymchwil (attaché diwydiannol) yng Nghanolfan Datblygu Technolegau Lloeren yn yr Asiantaeth Genedlaethol Ymchwil a Datblygu Gofod, Nigeria, ac yn ymchwilydd gwadd yng Nghanolfan Ymchwil RFID, Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Affrica, Nigeria.

Mae Mobayode yn Gristion sydd wrth ei fodd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a gwyliau cymunedol yn Wrecsam a’r cyffiniau, fel aelod o Eglwys Gateway. Mae’n mwynhau teithio, darllen a gwrando ar gerddoriaeth. Yn ei amser sbâr, mae’n ysgrifennu’n greadigol ac yn chwarae rhywfaint ar offerynnau cerdd (piano, gitâr acwstig, a recorder desgant).